Heuwyd hadau Swish pan oedd Tereza yn gweithio ar Beating, ffilm ddawns a leolwyd mewn clwb bocsio.
"Rhyfeddol i mi oedd sut bydd bocswyr yn neidio trwy raff. Mi fwynheais ysgafnder eu symudiadau, eu rhythm newidiol a symudiad eu breichiau a’u coesau. Mi ges i fy swyno gan y gwahanol fathau o neidiau a llamau a’r hyn oedd wir yn fy nharo oedd sŵn y rhaff neidio oedd yn gyfeiliant i’w symudiadau."
Felly, aeth Tereza ati i greu Swish, a daeth y rhaff neidio i symboleiddio llawer iawn mwy.
"A fyddwch chi’n neidio y tu hwnt i chi’ch hun, y tu hwnt i’ch ffiniau, neu a ydych chi wedi’ch dal mewn cylch dieflig na allwch ddianc ohono?"
Ennilydd gwobr Darn Dawns y Flwyddyn 2017 ar Lwyfan Dawns y Weriniaeth Tsiec 2017
Perfformir y testun yn y Tsieceg a’r Saesneg, gydag is-deitlau Saesneg.
Sesiwn holi ac ateb gyda Tereza a Filip ar ôl y perfformiad nos Wener 22 Tachwedd.
Cydnabyddiaethau
Perfformwyr: Tereza Hradilková a Filip Míšek
Cysyniad a dehongliad: Tereza Hradilková
Dramäwriaeth: Biljana Golubović
Cerddoriaeth: Filip Míšek
Cynllunio Goleuo: Pavel Kotlík
Goleuo: Jan Hejzlar
Cynllunio Sain: Michal Sýkora
Gwisgoedd: Marjetka Kürner Kalous
Ymgynghorydd: Lukáš Jiřička
Cynhyrchu: Veronika Hladká
Cynhyrchydd: Jakub Hradilek
Cydgynhyrchwyd gan Tanec Praha, PONEC – dance venue a Studio Truhlárna
Gyda chefnogaeth gan Ministry of Culture Czech Republic, Tanec Praha, PONEC – dance venue, NADACE ŽIVOT UMĚLCE, 4 + 4 days in motion, Motus a Bazaar festival