Alexandra Burke yn The Bodyguard The Musical
Mae The Bodyguard, y sioe arobryn sy'n seiliedig ar y ffilm fyd-enwog, yn dychwelyd i’r Ganolfan am bythefnos yn unig.
Yn dilyn ei chyfnod West End a thaith DU hynod lwyddiannus, bydd yr enillydd X-Factor a enwebwyd am wobr Brit deirgwaith, Alexandra Burke* yn camu'n ôl mewn i ran Rachel Marron.
Mae Frank Farmer yn gyn-asiant i’r Gwasanaethau Cudd, a bellach yn warchodwr sy’n cael ei gyflogi i amddiffyn y seren fyd-enwog, Rachel Marron, rhag ystelciwr dieithr. Mae’r ddau ohonyn nhw’n disgwyl rheoli – ond y peth olaf y maen nhw’n ei ddisgwyl yw syrthio mewn cariad.
“London's best musical”
“The hottest ticket in town!”
Dyma sioe gyffrous ac eithriadol o ramantaidd sy’n cynnwys llond llwyfan o ganeuon enwocaf Whitney Houston, gan gynnwys One Moment in Time, I Wanna Dance With Somebody a’r enwog I Will Always Love You.







Canllaw oed: 10+ (Dim plant o dan 5)
Yn cynnwys goleuadau’n fflachio (sy’n cynnwys goleuadau strôb) ac effeithiau sain uchel (sy’n cynnwys sŵn gynnau’n tanio).
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 20 munud (yn cynnwys 1 egwyl)
*Ni fydd Alexandra Burke yn ymddangos ym mhob perfformiad. Bydd Alexandra Burke yn perfformio mewn perfformiadau nos yn unig. Dydi hi ddim wedi'i rhaglennu i berfformio mewn unrhyw berfformiad matinée yng nghanol yr wythnos na dyddiau Sadwrn gan gynnwys unrhyw berfformiadau matinée. Ni all cynhyrchwyr The Bodyguard gwarantu bod artist penodol yn perfformio; mae hynny bob amser yn amodol ar salwch a gwyliau.
CYNIGION I AELODAU
Gostyngiad 0 £10 ar 16 Ebrill. Aelodaeth
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o £5. Trefnu ymweliad grŵp
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Capsiynau Agored
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Sain Ddisgrifiad