Perfformiadau Arall Wedi'I Ychwanegu: 21 a 22 Rhagfyr, 3.30pm
Tic toc, tic toc... mae’r cloc yn dal i dician, ac eto mae’n teimlo fel petai’r Nadolig byth yn dod.
Ond beth os yw hud a lledrith y Nadolig ynghudd yn yr holl aros? Heb yr edrych ymlaen, efallai y byddwch yn colli’r holl synau, arogleuon, blasau, gweadau a sbarcl wrth i chi gyfri’r dyddiau tan y diwrnod mawr!
Ymunwch â Ysbryd y Nadolig i edrych ar draddodiadau tymor y Nadolig, a chael llwythi o syniadau da i helpu plant ymdopi â’r holl gyffro a’r disgwylgarwch.
Mae’r holl berfformiadau yn rhai ymlaciedig, bydd geiriau penodol yn cael eu harwyddo, ac mae chwarae synhwyraidd yn rhan annatod o’r perfformiad.
Bydd y Teithiau Cyffwrdd yn digwydd 15 munud cyn i’r perfformiad gychwyn.
Does dim angen trefnu o flaen llaw ar gyfer y Teithiau Cyffwrdd, dim ond troi lan ar y diwrnod.
Canllaw oed: 0 – 7 oed
Hyd y perfformiad: tua 50 munud
Perfformiadau Ymlaciedig
Teithiau Cyffwrdd