Dewiswch eich pecyn drwy ddefnyddio’r botymau ar waelod y dudalen; detholwch eich sioeau ac yna caiff y gostyngiad ei gymhwyso yn y basged.
Un prynhawn yn ddwfn yn y goedwig, mae'r Coedwigwr yn dod ar draws llwynoges ifanc, ac mae'n mynd â hi adref fel anifail anwes i'w deulu.
Ond mae gan y greadures chwareus hon gynlluniau mwy ac mae hi'n dianc i ymrafael â'r byd ar ei thelerau ei hun. Wrth i'w hantur ddatblygu, mae holl greaduriaid y goedwig yn dod yn fyw, mewn chwedl sy'n dathlu cylch bywyd.
Wedi ei ysbrydoli gan stribed comig, mae cynhyrchiad lliwgar WNO yn swynol, doniol a dwys. Mae'n ailuno'r Cyfarwyddwr, David Pountney gyda Chyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus sy'n arwain cyfuniad o gerddoriaeth werinol a cherddoriaeth soffistigedig Janáček, gan ddwyn i gof bywiogrwydd natur.
Cynhyrchiad ar y cyd â Scottish Opera
Cenir yn Tsieceg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
Pecynnau Opera Cenedlaethol Cymru
3 OPERA gostyngiad o10% 4 OPERA gostyngiad o 15% 5 OPERA gostyngiad o 20%Canllaw oed: 8+ (Dim plant dan 2 oed)
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr (gydag 1 egwyl)
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o £4. Yn berthnasol i seddi penodol.
YSGOLION
£12.50 — yn berthnasol i seddi penodol. Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffôn 029 2063 6464.
DAN 30 OED
£10 — yn berthnasol i seddi penodol.
DAN 16 OED
£5 — 1 tocyn plentyn gydag un oedolyn sy'n talu'n llawn.
Cynigion yn seiliedig ar dyraniadau ac argaeledd.