gan Anwen Carlisle a Dyfan Jones
Yn y sioe wreiddiol hon dilynwn hanes dau gymeriad sy’n symud i ddociau Caerdydd ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf - un i weithio ar y llongau a’r llall fel nyrs yn Ysbyty Hamadryad. Bydd y sioe yn cyfeirio at y defnydd helaeth o’r iaith Gymraeg yn y dociau a nifer o ddigwyddiadau pwysig yn Porth Tiger yn ystod cyfnod pan oedd allforio glo ar ei anterth.
Yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r sioe yw hanes yr iaith yn y ddinas a Phorth Teigr. Gwelir y sioe yma fel cyfle gwych i ysbrydoli ac addysgu plant Caerdydd a’r Fro am hanes yr iaith, y ddinas a Phorth Teigr drwy straeon diddorol.