Yn anffodus, mae sioe Elvis Costello ar nos Lun 16 Mawrth yn cael ei ohirio gan yr hyrwyddwyr oherwydd y sefyllfa gyda Coronafeirws. Byddwn yn cysylltu ag archebwyr tocynnau yn uniongyrchol.
Daw Elvis Costello and The Imposters â’u sioe newydd i’r DU ar gyfer eu taith gyntaf yn y ddegawd newydd.
Mae teitl y daith “Just Trust” yn ateb y cwestiwn cyffredin gan ddilynwyr y grŵp, sef, a fyddan nhw'n chwarae hen ffefrynnau a chaneuon sydd bron byth yn cael grandawiad?
Pan fydd deiliaid tocynnau yn gofyn "Alla i ddisgwyl clywed y caneuon gorau o'r gorffennol, a rhai y dyfodol?"
Byddwn ni’n ateb fel hyn: Just Trust Elvis Costello and The Imposters.
Bydd yr ensemble eithriadol yma – Steve Nieve ar yr allweddellau, Pete Thomas ar y drymiau, a Davey Faragher, y chwaraewr bass a’r lleisydd – yn croesawu atynt y cantorion Kitten Kuroi a Briana Lee.
Clywyd pob un ohonynt ar ‘Look Now’ a ryddhawyd i ganmoliaeth uchel yn 2018 gan Concord Records, a bydd caneuon oddi ar hon yn cael lle haeddiannol ymhlith y goreuon yn un o’r catalogau caneuon enwocaf a mwyaf unigryw yn holl hanes cerddoriaeth boblogaidd.
Gyda Ian Prowse yn cefnogi.
Canllaw oed: 14+
Amser cychwyn: 7.30pm