George and Me (My Stories, His Songs)

Sioe un Dyn

Bar Cabaret ffresh

WEDI'I CHANSLO

George and Me (My Stories, His Songs)

Sioe un Dyn

WEDI'I CHANSLO

Bar Cabaret ffresh

Yn anffodus, mae sioe George and Me (My Stories, His Songs) wedi'i chanslo oherwydd y sefyllfa bresennol gyda coronafeirws. Byddwn yn cysylltu gydag archebwyr tocynnau'n uniongyrchol i drefnu ad-daliad.

Yn dilyn sawl perfformiad hynod boblogaidd yn Crazy Cogs yn Piccadilly, Llundain, mae’r actor a’r canwr arobryn, Morgan James, yn dod â’i sioe un dyn i’r Ganolfan.

Yn cyfuno’i straeon ac atgofion o gael ei fagu’n fachgen “sensitif” mewn tref lofaol fach Gymreig gyda pherfformiadau o ganeuon anhygoel George Michael.

Ers marwolaeth gynnar, drasig George, mae Morgan wedi bod eisiau cynhyrchu a pherfformio sioe sydd yn taflu goleuni ar ddawn George fel cyfansoddwr a dathlu’r dyn ei hun a’i gerddoriaeth.

Wedi’i gyd-greu gydag Alison Johnston, gyda threfniannau cerddorol gan Noam Galperin, bydd Morgan yn canu caneuon George fel trac sain i fomentau o’i fywyd ei hun ac yn rhannu straeon ac atgofion o gael ei fagu’n foi “gwahanol”, ei ddyddiau cynnar yn y diwydiant actio a’r uchafbwyntiau ac isafbwyntiau o ddod allan fel dyn hoyw agored.

Noson fythgofiadwy o chwerthin, adrodd straeon a cherddoriaeth anhygoel.

“James simply commands the stage”

The Times

Ymunwch â ni am goctels a thameidiau blasus o 6pm ymlaen.
Cerdyn a thaliadau digyswllt yn unig, dim arian parod – diolch.

Canllaw oed: 14+

Amser cychwyn: 8pm

Hyd y perfformiad: Tua 2 hwr 5 munud (yn cynnwys un egwyl)

Dyrennir seddi ar y noson

GOSTYNGIADAU

Tocynnau am £12

Cyflwynir yn

Bar Cabaret ffresh