Wales Millennium Centre yn Cyflwyno

Kate Butch – Wuthering Shites

Bar Cabaret ffresh

WEDI'I CHANSLO

Wales Millennium Centre yn Cyflwyno

Kate Butch – Wuthering Shites

WEDI'I CHANSLO

Bar Cabaret ffresh

Yn anffodus, mae sioe Kate Butch – Wuthering Shites wedi'i chanslo oherwydd y sefyllfa bresennol gyda coronafeirws. Byddwn yn cysylltu gydag archebwyr tocynnau'n uniongyrchol i drefnu ad-daliad.

Mae Kate Butch, ‘Comic Sans’ byd Drag, wedi ysgrifennu sioe gerdd yn seiliedig ar ganeuon ei hoff ganwr a’i chydenw, ond mae angen eich help chi arni i gael ‘BUSH!’ i Broadway.

Disgwyliwch lwyth o chwerthin, caneuon, gemau a ‘cloudbusting’, gan un o sêr drag fwyaf Llundain.

Dewch i weld y “great comedian” (WhatsOnStage) a mwynhewch wrando ar ei haddasiadau hi o rai o’r clasuron - gan gynnwys Runs Up That Hill, Dreams of Sheep ac wrth gwrs, Wuthers your Heights.

“If you see a more joyous or genuinely funny show this year, I'd be very surprised”

Buxton Fringe Review, 2017

Mae arddulliau comedi Kate wedi’i catapyltio i fyd o fywyd nos queer y brifddinas. Wedi iddi berfformio gydag enwogion megis enillydd RuPaul’s Drag Race, Sasha Velous a The Vivienne, yn ogystal â’r Cheeky Girls eu hunain, Kate Butch yw’r enw sydd ar flaen tafod pawb a phob un.

“A clear show-stealer”

ScotsGay

Ymunwch â ni am goctels a thameidiau blasus o 6pm ymlaen
Cerdyn a thaliadau digyswllt yn unig, dim arian parod – diolch.

Canllaw oed: 16+

Amser cychwyn: 8pm

Gostyngiad

Tocynnau am £12

Cyflwynir yn

Bar Cabaret ffresh