Yn anffodus, mae sioe Meet Me A Tree wedi'i chanslo oherwydd y sefyllfa bresennol gyda coronafeirws. Byddwn yn cysylltu gydag archebwyr tocynnau'n uniongyrchol i drefnu ad-daliad.
Dewch i gwrdd â choeden. Beth welwch chi dan yr awyr las wrth i’r haf arnofio heibio?
Mae Meet Me A Tree yn opera gyntaf ryngweithiol ar gyfer plant bach 0 – 2 oed a’u gofalwyr, gyda cherddoriaeth gan Schumann, Delibes a Handel yn ogystal â geiriau a cherddoriaeth a grëwyd gan y cwmni.
Mae HurlyBurly yn eich gwahodd chi a’ch baban ar daith aml-synhwyraidd drwy flwyddyn ym mywyd coeden: canu gyda’r aderyn du, cerdded drwy garped o ddail, arogli blagur sydd newydd egino, a theimlo’r awel ar eich bochau.
Gyda chanu hyfryd a cherddoriaeth ymlaciol yn sail i’r cyfan, mae Meet Me A Tree yn rhoi cyfle i rieni newydd, gofalwyr a babanod ymlacio a chael hwyl.
Canllaw oed: plant bach 0–2 oed.
Amser cychwyn: 11.30am a 1.30pm
Hyd y perfformiad: tua 40 munud (dim egwyl)