Yn anffodus, mae sioe Paradwys Pastel wedi'i chanslo oherwydd y sefyllfa bresennol gyda coronafeirws. Byddwn yn cysylltu gydag archebwyr tocynnau'n uniongyrchol i drefnu ad-daliad.
I ddathlu ymweliad sioe ‘Mischief and Mystery in Moominvalley’ dros wythnos gyntaf gwyliau’r Pasg, byddwn ni’n creu Paradwys Pastel ein hun!
Dewch i adeiladu’r ddinas gyda ni.
Beth am greu trên pinc, coeden laswyrdd neu afon lliw banana?
Gweithgaredd hwyliog ac am ddim ar gyfer y teulu cyfan.
Mae’r sesiynau yma’n cael eu hariannu drwy werthiant tocynnau, aelodaeth, gwerthiannau bwyd a diod yn ogystal â haelioni unigolion.
Canllaw oed: Addas ar gyfer pob oedran