Mae perfformiadau Grease yng Nghaerdydd wedi eu gohirio oherwydd y pandemig Coronafeirws. Y dyddiadau newydd fydd y sioe yn cael ei berfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yw 16 - 21 Awst 2021. Mae deiliaid tocynnau wedi eu symud yn awtomatig i ddyddiad a seddi sy’n cyfateb i’r archeb wreiddiol. Gellir dod o hyd i holl fanylion eich archeb newydd drwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein.
Mae hoff sioe gerdd y byd yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru yn dilyn galw mawr!
Ar ôl corwynt o garwriaeth, mae'r carwr lledr Danny a'r ferch drws nesaf Sandy yn cael aduniad annisgwyl pan gaiff Sandy ei throsglwyddo i Rydell High ar gyfer ei blwyddyn olaf yn yr ysgol. Ond ydyn nhw'n gallu goroesi hynt a helynt eu arddegau a dod o hyd i gariad unwaith eto?
Gyda sgôr anhygoel ac yn llawn ffefrynnau mawr fel Summer Nights, Greased Lightin’, Hopelessly Devoted to You a You’re the One That I Want, daw’r fersiwn syfrdanol yma’n fyw ar lwyfan gyda chast ifanc newydd sy’n dod ag egni ac angerdd i’r clasur o sioe gerdd yma.
Wedi'i gyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Curve, Nikolai Foster, a gyda chast yn cynnwys yr artist gwadd arbennig iawn Peter Andre* fel Teen Angel a Vince Fontaine – dyma gyfle i chi ail-gynnau eich angerdd a pharatoi am ffrwydriad o gariad hafaidd.
Felly dewch â'r bois o'r Burger Palace a'r merched mewn pinc ynghyd i ail-ddarganfod pam mai Grease yw'r un i weld y tymor yma!

Peter Andre






*Ni fydd Peter Andre yn perfformio ar 21 Awst. Weithiau bydd salwch neu wyliau’n codi, felly nid oes modd i gynhyrchwyr warantu bod unrhyw un o’r artistiaid yn ymddangos ym mhob perfformiad.
Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed)
Amser cychwyn:
Llun – Sad 7.30pm
Iau & Sad 2.30pm
CYNIGION I AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol. Ar y 2 bris drutaf. Aelodaeth.
U16 A MYFYRWYR AELODAU
Gostyngiad o £3, perfformiadau penodol.
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o £3, perfformiadau penodol. Trefnu ymweliad grŵp.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.