Mae CDCCymru YMA. Cymerwch bleser mewn awr o ddawns a fydd yn gwneud i chi ddawnsio, chwerthin a synnu.
Yn cynnwys rhithiau hudol, gwisgoedd lliwgar a cherddoriaeth fyw, mae’r triawd dawns hwn yn byrlymu ag egni ac yn mynd o fod yn drawiadol o brydferth i wneud i chi chwerthin yn uchel.
Mae Afterimage yn ffefryn y cynulleidfaoedd lle defnyddir drychau i wneud i gymeriadau ddiflannu’n hudol ac ailymddangos ar y llwyfan.
Mae Why Are People Clapping!? yn codi calon, yn ddoniol ac yn hurt o glyfar. Mae’n defnyddio rhythm fel grym gyrru i greu llawenydd pur.
Mae Moving is everywhere, forever gan Faye Tan yn fywiog ac yn gynnes. Awdl foddhaus i’r weithred o symud – yr ysgogiad anorchfygol hwnnw i ryddhau popeth a nodio gyda’r curiad, wedi’i osod i drac sain magnetig gan y deuawd cerddoriaeth electronig Gymreig, Larch.
Coreograffi: Fernando Melo, Ed Myhill, Faye Tan
Cefnogir gan Weston Culture Fund
Trafodaeth ar ôl y sioe: Dydd Gwener 29 Hydref
Hyd y perfformiad: Tua 1 awr (dim egwyl)
CYNIGION GRWP
Tocynnau £8 ar gyfer grŵpiau o 10+
Cysylltwch â karen@ndcwales.co.uk ar gyfer cynigion gweithdy.
YSGOLION
Tocynnau £8, galwch 029 2063 6464 er mwyn archebu.
Cysylltwch â karen@ndcwales.co.uk ar gyfer cynigion gweithdy.
CYNIGION DAN 26
Tocynnau am £8
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.