Mae Oti Mabuse, pencampwraig bresennol Strictly Come Dancing a The Greatest Dancer, yn creu sioe heb ei thebyg ar gyfer 2021.
Byddwch yn barod am noson o goreograffi trydanol pan fydd Oti’n cael cwmni rhai o ddawnswyr gorau’r byd a rhai o gantorion a cherddorion gorau’r West End.
Bydd Oti Mabuse – I Am Here yn ddathliad carlamus o’r ysbrydoliaeth a’r dylanwadau fu arni ar ei thaith o’i magwraeth yn Ne Affrica er mwyn dilyn ei breuddwyd. O’r Jeif hudolus a’r Samba swmpus i Kwaito egnïol De Affrica, bydd eich calon yn cyflymu yn y noson ffrwydrol yma o gerddoriaeth a dawns.
Canllaw oed: 5+