Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod Cymru'n symud i Lefel Rhybudd 2, canllawiau dilynol ar fesurau ymbellhau cymdeithasol a digwyddiadau dan do, ac i ddiogelu ein cynulleidfaoedd, staff, a chast a chriw ein cynyrchiadau, mae'n ddrwg gennym fod pob perfformiad o’r sioeau a drefnwyd wedi'u canslo o 26 Rhagfyr tan o leiaf 15 Ionawr 2022.
Byddwn yn ebostio’r archebydd wreiddiol a threfnu ad-daliad awtomatig iddynt; nid oes rhaid cysylltu â ni. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a siom a achosir gan y canslad hwn.
Gwyliwch Polly Amorous a'i ffrindiau'n gwneud Dickens dan yr uchelwydd ar gyfer 'anti-panto' fwyaf di-drefn Caerdydd erioed.
Gan roi'r 'ass' nôl yn y cl-ass-ur Nadoligaidd hwn gyda drag, bwrlésg, syrcas a chaneuon, bydd XXXmas Carol yn rhoi chwant stwffin i chi.
Mae'r fersiwn bisâr hwn o hunllef Nadoligaidd Charles Dickens yn berffaith os oes well gennych chi'r drwg na'r da dros dymor y gwyliau.
“Deliciously naughty...a variety show in a parallel universe”
“wonderfully camp”
Rydyn ni wedi ysglyfio'r tafarndai, carchardai a wercysau lleol i ddod â'r artistiaid mwyaf rhyfedd a rhyfeddol yn ne Cymru i chi, gan gynnwys Rahim El Habachi, Foo Foo LaBelle, Bunmi Odumosu, Eric McGill a Geraint Owen.
Anghofiwch am Nadolig y gorffennol – dyma anrheg Nadolig i'w gofio am yr holl Nadoligau sydd eto i ddod. Dewch, da chi!
“Imagine Moulin Rouge dropped right into the heart of the capital”
Y Tîm
Cwmni
Polly Amorous
Foo Foo LaBelle
Rahim El Habachi
Eric McGill
Bunmi Odumosu
Geraint Owen
Cyfarwyddwr
Duncan Hallis
Dylunydd
Petros Kourtellaris
Cynorthwywyr Dylunio
Ruby Boswell-Green
Juliette Georges
Faith Hucklesby
Lucile Russing
Nikita Verboon
Dylunydd Goleuo
Sherry Coenen
Cynhyrchwyr
Ben Clark
Peter Darney
Jasmine Okai
George Soave
Rheolwr Cynhyrchu
Nick Allsop
Rheolwr Llwyfan
Philippa Mannion
Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain
Cathryn McShane
Cymdeithion Creadigol
Nerida Bradley
Tafsila Khan
Amser cychwyn: 8.30pm, Drysau 8pm
Matinee 31 Rhagfyr 2.30pm, Drysau 2pm
Hyd y perfformiad: 2 awr a 30 munud (gan gynnwys egwyl)
Cyfyngiad oedran: 18+
Yn cynnwys noethni, iaith gref, bangiau uchel a goleuadau strôb.
Rhagolwg: 8 Rhagfyr 8.30pm, £10
Perfformiadau BSL: 11 Rhagfyr 8.30pm + 17 Rhagfyr 8.30pm
Myfyrwyr, Hynt + digyflogedig
£12
Cynnig grwpiau
£3 oddi ar y pris llawn i grwpiau 10+
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Pwysig: Diogelwch a gofynion Covid
Yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, bydd rhaid i bawb sy’n mynychu’r perfformiad hwn ddangos Pàs Covid y GIG neu dystiolaeth canlyniad prawf Covid negyddol ynghŷd ag ID llun. Darllenwch ein cwestiynau cyffredin i weld sut i gael eich un chi.
Rydyn ni wedi rhoi nifer o fesurau diogelwch ar waith er mwyn sicrhau bod ein lleoliad yn Covid-ddiogel ac yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth.