Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Arwydd Drwy’r Awyr

Ffilm realiti rhithwir gan Tracy Spottiswoode

Bocs

9 – 20 November 2022

Arwydd Drwy’r Awyr

Ffilm realiti rhithwir gan Tracy Spottiswoode

9 – 20 November 2022

Bocs

Profiad realiti rhithwir 360 yn Gymraeg a Saesneg yw Arwydd Drwy’r Awyr gan y gwneuthurwr ffilmiau llwyddiannus Tracy Spottiswoode, ynghyd â’r artist sain Marie Tueje a’r perfformwyr Marega Palser, Mary-Anne Roberts a Gareth Clark.

Ar 13 Mai 1897 gwnaeth y dyfeisiwr Eidalaidd Gugliemo Marconi, a oedd yn gweithio gyda pheiriannydd o Swyddfa’r Post yng Nghaerdydd, George Kemp, drawsyrru a derbyn y signalau di-wifr cyntaf erioed mewn Cod Morse dros ddŵr agored rhwng Ynys Echni a Thrwyn Larnog ar arfordir de Cymru.

Dyma oedd dechrau technoleg gyfathrebu fodern. Un o’r negeseuon oedd ‘ARE YOU READY?

Wedi’i ysbrydoli gan arbrawf Marconi, mae Arwydd Drwy’r Awyr yn mynd â’r gynulleidfa ar daith gyfareddol, ryfeddol a breuddwydiol, gyda haenau o hanes, mytholeg, iaith a natur yr ardal o amgylch Larnog.

Mae’r profiad, a luniwyd fel perfformiad safle-benodol ar gyfer aelod unigol o gynulleidfa gyda’r bwriad o gynnig cysur mewn cyfnod o ynysu, yn cyfuno’r traddodiad Celtaidd o adrodd stori ag atyniad gweledol swrrealaidd straeon tylwyth teg dwyrain Ewrop.

Mae’r offer VR yn borth, sy’n cludo’r gwyliwr i fyd lle y gwahoddir gwesteion i gymryd rhan mewn defodau cyfarwydd ond rhyfedd, gan ddechrau ar daith emosiynol ac atgofus drwy haenau chwedlonol amrywiol y lle go iawn a hudol hwn.

Amseroedd agor:
Llun – Sadwrn* 11am – 7pm
Sul 11am – 4pm
Bydd y profiad yn rhedeg unwaith yr awr.
*Bydd y profiad ar gau ddydd Gwener 18 Tachwedd.

Hyd y profiad: Tua 50 munud neu gallwch ddewis profi penodau unigol o’r stori fel darnau byrrach, annibynnol. Dylech gyrraedd o leiaf 10 munud cyn dechrau eich sesiwn er mwyn sicrhau amser i gael cyfarfod briffio.

Canllaw oedran: 13+
Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad, ac ni argymhellir VR i bobl o dan 13 oed.

Yn dilyn y profiad VR ceir arddangosfa fach sy’n cynnwys archif a deunyddiau clyweledol eraill sy’n gysylltiedig â’r safle yn Larnog ac arbrawf di-wifr Marconi i’w mwynhau yn eich amser eich hun.

A VR headset resting on the floor with neon lights in the background

Cyflwynir yn

Bocs