Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Adeiladu Presenoldeb Gweledol Ar Gyfer Artist Cerddoriaeth Newydd

Cyfle creadigol am ddim

Canolfan Mileniwm Cymru

8 Tachwedd – 13 Rhagfyr 2022

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Adeiladu Presenoldeb Gweledol Ar Gyfer Artist Cerddoriaeth Newydd {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-1568

Adeiladu Presenoldeb Gweledol Ar Gyfer Artist Cerddoriaeth Newydd

Cyfle creadigol am ddim

8 Tachwedd – 13 Rhagfyr 2022

Canolfan Mileniwm Cymru

Ydych chi’n artist ifanc sydd eisiau datblygu eich hunaniaeth weledol a’ch presenoldeb digidol? Ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer eich cân nesaf? Mae’r cwrs chwe wythnos rhad ac am ddim hwn i chi.

Dechreuwch eich taith gyda’r pâr cynhyrchu creadigol o Gaerdydd REDBRCK a phorwch y broses o ddod o hyd i’ch gweledigaeth ac ehangu eich creadigrwydd. O gymryd eich camau cyntaf i adeiladu eich presenoldeb digidol i ddatblygu eich hunaniaeth ddilys eich hun ymhellach a meithrin hunanhyder yn y neges rydych chi am ei mynegi.

Caiff y gweithdai hyn eu teilwra i’ch arwain ar eich taith fel artist. Byddwn yn esbonio ac yn eich helpu i ddeall y broses sydd y tu ôl i dynnu lluniau neu saethu fideos, pwysigrwydd marchnata gweledol ac adeiladu triniaeth o syniadau ysbrydoledig neu wreiddiol.

Yr hyn y gallwch chi ei ddisgwyl o’r profiad yw sut i baratoi a chynllunio eich syniadau unigryw mewn ffordd strategol, sut i dyfu a meithrin eich hunaniaeth artistig a sut i fynegi eich hun drwy’r lens.

I BWY MAE’R RHAGLEN?

Mae’r cyrsiau’n agored i unrhyw un 14 – 25 oed o bob cefndir ac o bob rhan o Gymru.

PRYD?

Bob dydd Mawrth, 5pm – 7pm dros chwe wythnos yn dechrau 8 Tachwedd 2022.

Mae chwe sesiwn i’r cwrs yma, ar y dyddiadau canlynol: 8 Tachwedd, 15 Tachwedd, 22 Tachwedd, 29 Tachwedd, 6 Rhagfyr, a 13 Rhagfyr felly bydd angen i chi fynd i bob un. Ychwanegwch un tocyn i’ch basged er mwyn archebu lle ar y cwrs cyfan.

AM EIN CYRSIAU LLAIS CREADIGOL

Mae Llais Creadigol yn rhaglen unigryw sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc archwilio’u diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.

Ariennir y gweithgaredd hwn gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru