Yn cynnwys cyn-berfformwyr y cynhyrchiad theatrig anhygoel Les Misérables, mae The Barricade Boys wedi diddanu cefnogwyr ar draws y byd ers iddyn nhw ffurfio yn 2015.
Bydd Barricade Boys’ Bring Him Home Tour yn cynnwys cerddoriaeth o rhai o’r sioeau gorau ar lwyfannau’r West End a Broadway, gan gynnwys Phantom Of The Opera, Miss Saigon, Jersey Boys ac, wrth gwrs, Les Misérables, yn ogystal â chaneuon poblogaidd rhai o oreuon cerddoriaeth pop a roc megis Queen, Elton John, The Beatles, Ed Sheeran ac Adele.
Gan gymysgu harmonïau lleisiol pwerus a dawnsio llyfn gyda thaith drwy ddegawdau theatr gerdd, mae’r bechgyn yn rhannu profiad o berfformio yn y sioe gerdd sydd wedi bod yn rhedeg hiraf yn y byd.
Yn noson sioe gerdd sy’n wahanol i’r arfer, bydd The Barricade Boys yn rhannu straeon o’r sioeau y maent wedi ymddangos ynddynt, gan gynnwys Mamma Mia, Wicked, Billy Elliot, The Book Of Mormon, The Sound Of Music a Joseph And The Amazing Technicolor Dreamcoat.
Peidiwch golli’r cyfle hwn i brofi noson syfrdanol sy’n dathlu goreuon y byd sioe gerdd a’ch ffefrynnau roc a phop!
Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed)
Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Amser cychwyn: Sul 7.30pm
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.