Ymunwch â ni yn Theatr Donald Gordon i ddathlu perfformiad olaf Carnifal Trebiwt 2022.
Bydd parti’r flwyddyn yn cynnwys perfformiad gan Johnny ‘African Roots’ Clarke a Dub Asante Band yn ogystal â Horace Andy, sy’n adnabyddus am ei lais swynol mewn cerddoriaeth reggae ac am ei gysylltiad hir â Massive Attack.