Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
A camera filming a guitarist

Creu Eich Fideo Cerddoriaeth Eich Hun

Cyfle creadigol am ddim

Canolfan Mileniwm Cymru

25 – 26 Awst 2022

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Creu Eich Fideo Cerddoriaeth Eich Hun {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-1497

Creu Eich Fideo Cerddoriaeth Eich Hun

Cyfle creadigol am ddim

25 – 26 Awst 2022

Canolfan Mileniwm Cymru

Ydych chi rhwng 14 ac 18 oed? Oes diddordeb gennych mewn dysgu sut i greu eich fideo cerddoriaeth eich hun?

Mae ffilmiau byr fel fideos cerddoriaeth yn rhywbeth rydyn ni’n eu gweld drwy’r amser ac mae’n fformat sydd wedi sbarduno gyrfaoedd nifer o gyfarwyddwyr ffilm llwyddiannus!

Yn ystod y gweithdy dau ddiwrnod hwn, byddwch chi’n gweithio mewn grwpiau i ddewis cân addas a chreu eich fersiwn eich hun o fideo cerddoriaeth hyrwyddol.

Fel rhan o’r cwrs byddwch chi’n cael canllawiau ar elfennau allweddol i wella eich sgiliau creu ffilmiau gan Rhys Bebb sy’n Rheolwr Hyfforddi a Sam Brown sy’n Gynorthwyydd Tîm yn Screen Alliance Wales.

Sefydliad sydd wedi’i ariannu gan y diwydiant i weithredu fel pont rhwng darpar gyflogwyr a’u gweithlu posibl yw Screen Alliance Wales. Maen nhw’n cyhoeddi swyddi lefel mynediad ar eu gwefan yn rheolaidd, yn ogystal â threfnu lleoliadau cysgodi gwaith a darparu arweiniad a hyfforddiant gyrfaoedd am ddim.

I newydd-ddyfodiaid sydd am ddysgu mwy, bydd y sesiynau hyn yn darparu’r holl adnoddau sydd eu hangen arnoch i greu fideo cerddoriaeth gwych!

I BWY MAE’R CWRS?

Mae ein cyrsiau ar gael i unrhyw un rhwng 14 a 18 oed o bob cefndir ledled Cymru ac maen nhw’n lefel mynediad, wedi’u hanelu at bobl chwilfrydig, dechreuwyr neu bobl sydd am adnewyddu eu sgiliau.

I sicrhau eich lle ar ein cwrs am ddim yn ystod gwyliau’r haf, cofrestrwch.

Caiff diodydd a byrbrydau eu darparu i’r holl gyfranogwyr yn ystod egwylion ond gofynnwn i chi ddod â’ch cinio eich hun ar y diwrnod.

PRYD?

Bydd angen i chi ymrwymo i ddau ddiwrnod y cwrs ar 25 a 26 Awst 2022, rhwng 9:30am a 4pm

AM EIN CYRSIAU LLAIS CREADIGOL

Mae Llais Creadigol yn rhaglen unigryw sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc archwilio’u diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.

Ariennir y gweithgaredd hwn gan The Moondance Foundation, Garfield Weston Foundation, The Simon Gibson Charitable Trust a The Mary Homfray Charitable Trust.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru