Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
A camera filming a guitarist

Creu Eich Fideo Cerddoriaeth Eich Hun

Cyfle creadigol am ddim

Canolfan Mileniwm Cymru

18 Tachwedd – 17 Rhagfyr 2022

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Creu Eich Fideo Cerddoriaeth Eich Hun {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-1575

Creu Eich Fideo Cerddoriaeth Eich Hun

Cyfle creadigol am ddim

18 Tachwedd – 17 Rhagfyr 2022

Canolfan Mileniwm Cymru

Ydych chi’n 14–25 oed ac a oes diddordeb gennych mewn dysgu sut i saethu eich fideo cerddoriaeth eich hun?

Mae ffilmiau byr fel fideos cerddoriaeth yn rhywbeth rydyn ni’n eu gweld drwy’r amser, ac mae’n fformat sydd wedi sbarduno gyrfa sawl cyfarwyddwr ffilm llwyddiannus!

Dros gyfres o weithdai creu ffilmiau dynamig a chyflym, byddwch chi’n gweithio drwy hanfodion saethu fideos cerddoriaeth creadigol. Gosod saethiad, golygu, goleuo, awgrymiadau cyn-gynhyrchu – caiff pob agwedd ar y broses greadigol o saethu fideos cerddoriaeth ei gwmpasu. Byddwch chi’n cael profiad ymarferol gydag offer gwerthfawr ac yn cael cyfle i roi eich stamp creadigol eich hun ar y fideos terfynol. Caiff y cwrs byr hwn ei arwain gan y fideograffydd Jamie Panton sydd wedi dysgu wrth weithio yn y diwydiant cerddoriaeth, a bydd yn egluro popeth sydd angen i chi ei wybod er mwyn dechrau saethu eich fideos cerddoriaeth eich hunain.

I newydd-ddyfodiaid sydd am ddysgu mwy, bydd y sesiynau hyn yn rhoi’r adnoddau i chi greu fideo cerddoriaeth gwych!

WHO IS IT FOR?

Mae’r cyrsiau’n agored i unrhyw un 14 – 25 oed o bob cefndir ac o bob rhan o Gymru.

PRYD?

Bob dydd Gwener, 4.30pm – 7.30pm am bum wythnos yn dechrau ar 18 Tachwedd 2022. Bydd y sesiwn olaf ddydd Sadwrn 17 Rhagfyr rhwng 12pm a 5pm.

Mae chwe sesiwn i’r cwrs yma, ar y dyddiadau canlynol: 18 Tachwedd, 25 Tachwedd, 2 Rhagfyr, 9 Rhagfyr, 16 Rhagfyr, a 17 Rhagfyr felly bydd angen i chi fynd i bob un. Ychwanegwch un tocyn i’ch basged er mwyn archebu lle ar y cwrs cyfan.

Os yw'r cwrs hwn wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni mewn cysylltiad os bydd lle ar gael.

EIN CYRSIAU LLAIS CREADIGOL

Rhaglen unigryw yw Llais Creadigol sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc archwilio’u diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.

Ariennir y gweithgaredd hwn gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru