Yn dilyn galw mawr a rhediad hynod boblogaidd, mae cynhyrchiad arobryn Cameron Mackintosh o sioe gerdd Boublil a Schönberg, Les Misérables, yn dychwelyd i Gaerdydd.
Mae'r llwyfaniad newydd sbon yma wedi rhyfeddu'r byd, gyda phobl yn ei alw’n 'Les Mis ar gyfer yr 21ain ganrif'. Gyda set wedi'i hysbrydoli gan baentiadau Victor Hugo, sgôr anhygoel Les Misérables sy'n cynnwys y caneuon, I Dreamed A Dream, On My Own, Bring Him Home, One Day More, Master Of The House, a llawer mwy.
"A five-star hit – astonishingly powerful"
Bydd Siobhan O’Driscoll (taith Heathers y DU ac American Idiot yn Seland Newydd) yn chwarae ‘Éponine’ a bydd seren y West End o Gymru Lauren Drew yn chwarae ‘Fantine’ (Legally Blonde, SIX, Heathers, Evita, Kinky Boots, The Voice UK 2021)
Wedi'i weld gan dros 120 miliwn o bobl ar draws y byd mewn 52 o wledydd ac mewn 22 iaith, Les Misérables yw un o sioeau cerdd mwyaf poblogaidd y byd.
Ymunwch â'r chwyldro a phrynwch docyn.
"A superb cast – 5 stars"
Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed).
Yn cynnwys goleaudau strob.
Hyd y perfformiad:
Tua 2 awr 50 munud (yn cynnwys un egwyl).
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.
Nodwch oherwydd y streiciau trenau a gyhoeddwyd bydd perfformiad dydd Sadwrn 24 Rhagfyr bellach yn dechrau am 1pm yn hytrach na 2.30pm. Rydyn ni wedi cysylltu â deiliaid tocynnau drwy e-bost