LGBTQ + VR Museum yw’r amgueddfa realiti rhithwir cyntaf yn y byd sy’n ymroddedig i ddathlu straeon a gwaith celf pobl LHDTC+ drwy ddiogelu hanesion personol cwiar.
Mae’r amgueddfa yn cynnwys sganiau 3D o arteffactau personol gwefreiddiol, o esgidiau priodas i dedi bêr, wedi’u dewis gan bobl yn y gymuned LHDTC+ a gyda’u straeon yn eu geiriau eu hunain.
Yn ddiweddar enillodd LGBTQ + VR Museum Wobr New Voices fawreddog yn Tribeca ym mis Gorffennaf 2022.
Amseroedd agor:
Llun – Sadwrn 11am – 7pm
Sul 11am – 4pm
Bydd y profiad yn rhedeg unwaith yr awr.
Hyd y profiad: Tua 30 munud
Canllaw oed: 13+
Rhaid bod unrhywun dan 16 fod yng nghwmni oedolyn.
BETH YW PROFIAD REALITI RHITHWIR?
Realiti rhithwir (VR) yw’r defnydd o dechnoleg gyfrifiadurol i greu byd efelychiadol. Mae gwesteion yn gwisgo penwisg gyda chlustffonau integredig dros eu clustiau.
BETH DDYLEN I DDISGWYL?
Mae amgueddfa VR LHDTC+ cyntaf y byd yn cynnwys sganiau 3D o wrthrychau emosiynol o fywyd go iawn – o esgidiau priodas i dedi bêr – wedi’u dewis gan bobl yn y gymuned LHDTC+ ac wedi’u hategu gan eu straeon yn eu lleisiau eu hunain. Mae’r oriel yn arddangos gwaith celf a darluniadau 2D gan grewyr cwiar o bedwar ban byd.
OES ANGEN ARCHEBU LLE?
Gallwch archebu tocynnau ymlaen llaw ar gyfer y profiad am ddim hwn i sicrhau lle, neu ddod draw ar y dydd.
Mae lle i 6 o bobl ym mhob sesiwn.
Mynediad olaf am 7pm Llun - Sad, 4pm Sul.
OES ANGEN I MI DDOD AG UNRHYWBETH?
Gellir gwisgo sbectol o dan y benwisg VR ond efallai bydd yn fwy cyfforddus i chi wisgo lensys cyffwrdd neu beidio â gwisgo’ch sbectol yn ystod y profiad.
BETH YW’R MESURAU IECHYD A DIOGELWCH?
Dyw’r rhan fwyaf o bobl ddim yn profi unrhyw ymatebion negyddol i Realiti Rhithwir (VR). Fodd bynnag, gall VR fod yn ddryslyd ar gyfer unigolion sy’n niwroamrywiol, sydd ag amhariadau clywedol neu weledol, neu sy’n profi’r bendro, epilepsi, penysgafnder, salwch teithio neu lewygu.
Os ydych chi’n feichiog neu os oes gennych reoliadur y galon, siaradwch â’ch meddyg teulu cyn cymryd rhan.
Bydd hwyluswyr wedi’u hyfforddi wrth law i roi cymorth ac arweiniad yn ystod y profiad os bydd angen.
Rydyn yn glanhau a diheintio’r holl offer, gan gynnwys penwisgoedd a chlustffonau, yn drylwyr â weipiau gwrthfacteria o safon ysbyty a pheiriant UV cyn pob defnydd. Gofynnir i chi ddefnyddio’r diheintydd dwylo a ddarperir wrth gyrraedd.
Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad, ac ni argymhellir VR i bobl o dan 13 oed.
Ni chanteir babis mewn gwregys yn y profiad.
Ni chanteir i unrhyw westeion sy’n cyrraedd ar gyfer y profiad gymryd rhan dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.