Daw Michael Ball adref i Gymru i godi'r llen ar sioe llawn sêr i ddathlu dychweliad cerddoriaeth fyw i'n theatrau.
Nodwch fod tocynnau wedi'u cyfyngu i 2 i bob person ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn.Byddwch yn ymwybodol y caiff y digwyddiad hwn ei recordio i'w ddarlledu ar y teledu.
Mae Theatr Donald Gordon yn lleoliad perffaith ar gyfer y noson gala hon sy'n llawn caneuon poblogaidd gan un o gantorion fwyaf poblogaidd Prydain.
Yn ymuno â Michael ar y llwyfan fydd y canwr jazz ac enaid Gregory Porter, y cyfansoddwr caneuon ac enillydd Gwobr Grammy Amy Wadge, y cantores a phersonoliaeth deledu Charlotte Church, ac Amy Dowden o Strictly Come Dancing.
Mae’n ddigwyddiad poblogaidd, ac mae’r tocynnau am ddim! Dyma ddigwyddiad cerddorol prin am un noson yn unig ni ellir ei golli.
Caiff y digwyddiad hwn ei recordio gan BBC Cymru a bydd yn cael ei rhedeg fel rhaglen deledu o flaen cynulleidfa.
Amser cychwyn:
Mer 7.30pm