Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Opera Cenedlaethol Cymru: Migrations

29 Mehefin, 1 + 2 Gorffennaf 2022

Theatr Donald Gordon

Beth yw canlyniadau ehangu ein gorwelion?

Mae’r awydd i ehangu ein gorwelion yn un naturiol, ond i lawer, mae’n angenrheidiol i wella ar amgylchiadau. Fodd bynnag, yn aml mae gwneud hyn yn arwain at ganlyniadau anfwriadol.

Drwy gyfres o storïau cyflinellol, mae opera newydd Opera Cenedlaethol Cymru yn archwilio’r uchafbwyntiau ac isafbwyntiau o ymfudo: o ymfudiad adar i hwylio'r Mayflower dros 400 mlynedd yn ôl; o hanes caethwas Affricanaidd Caribïaidd ym Mryste i brofiad y meddygon Indiaidd sy'n gweithio yn y Gig.

Mae amlochredd y gerddoriaeth, a gyfansoddwyd gan y cyfansoddwr Prydeinig Will Todd (Alice’s Adventures in Wonderland), yn wahanol i unrhyw beth a berfformiwyd o’r blaen yn WNO, ac mae’n addasu i leoliad ac awyrgylch bob naratif, a ysgrifennwyd gan chwe awdur o wahanol gefndiroedd. Yn ymuno â Cherddorfa WNO estynedig mae cast o 100 o berfformwyr sy’n cynnwys Corws WNO, côr gospel, dawnswyr Bollywood a chorws plant.

Drama epig ar raddfa enfawr, profiad byw na ellir ei fethu.

Cenir yn Saesneg gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg

Yn cynnwys themâu hiliaeth ac iaith a all beri gofid i rai pobl.

Amser cychwyn: 7.15pm

Hyd y perfformiad: Tua 2 hwr 20 munud (yn cynnwys un egwyl)

CYNIGION I GRWPIAU

Grwpiau 10+ gostyngiad o £4. Yn berthnasol i seddi penodol. Trefnu ymweliad grŵp.

YSGOLION

£12.50 — Yn berthnasol i seddi penodol. Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl.

Dan 16

£5 — 1 tocyn plentyn gydag un oedolyn sy'n talu'n llawn.

Cynigion yn seiliedig ar dyraniadau ac argaeledd.

Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon