Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

My Best Friend's Wedding

Theatr Donald Gordon

WEDI'I GANSLO

My Best Friend's Wedding

WEDI'I GANSLO

Theatr Donald Gordon

Oherwydd cyfyngiadau parhaus Llywodraeth y DU, mae cynhyrchwyr My Best Friend's Wedding wedi gwneud y penderfyniad anodd i ganslo’r daith o amgylch y DU. Byddwn yn cysylltu gydag archebwyr tocynnau yn uniongyrchol gyda mwy o wybodaeth. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a siom a achosir wrth i ni ganslo'r perfformiadau.

Mae’r ffilm hynod boblogaidd o’r 90au, My Best Friend’s Wedding, nawr yn sioe gerdd gomedi newydd sbon ac mae gwahoddiad i chi i’r briodas!

Yn serennu Alexandra Burke (The Bodyguard, Chicago, Sister Act) gyda llyfr gan Ronald Bass (My Best Friends’s Wedding, Rain Man, The Joy Luck Club) a Jonathan Harvey (Beautiful Thing, Gimme Gimme Gimme, Coronation Street), mae My Best Friend’s Wedding yn cynnwys rhai o’r anthemau pop mwyaf eiconig a ysgrifennwyd erioed gan yr enwog Burt Bacharach a Hal David, yn cynnwys I’ll Never Fall in Love Again, I Just Don’t Know What To Do With Myself, Walk on By, I Say A Little Prayer, What’s New Pussycat a llawer mwy.

Mae’r critig bwyd tanbaid Julianne Potter wastad wedi tanseilio rhamant. Dyna’i rheswm hi dros torri lan â’i chariad Michael O’Neal. Pan mae hi’n clywed ei fod ar fin priodi, mae hi’n cynllunio i’w ennill yn ôl am byth, ond gyda’i gariad perffaith, Kimmy, yn ei rhwystro, dyw hi ddim mor hawdd ag yr oedd hi’n disgwyl. Ydy hi’n gallu dinistrio priodas ei ffrind gorau mewn pryd a chadw Michael i’w hunan?

Ymunwch â ni i wylio’r holl beth yn datblygu wrth i’r sioe gerdd ramant hynod ddoniol ddod yn fyw mewn cynhyrchiad newydd ar gyfer y llwyfan.

      

Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed)

Amser cychwyn: 
Llun – Sad 7.30pm
Iau a Sad 2.30pm

CYNIGION I AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol. Aelodaeth. 

U16 A MYFYRWYR AELODAU

Gostyngiad o £4, perfformiadau penodol.

CYNIGION I GRWPIAU

Grwpiau 10+ gostyngiad o £4, perfformiadau penodol. Trefnu ymweliad grŵp.

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon

Sioeau Cerdd

Gweld popeth

The Commitments

Strictly Ballroom

Grease

Sister Act

Les Misérables

My Best Friend's Wedding

Six

We Will Rock You

Sioe Gerdd Gomedi Lwyddiannus Llundain

Waitress

Everybody's Talking About Jamie

Bedknobs and Broomsticks

Dreamgirls

School of Rock

Bring It On

Michael Harrison a Jonathan Church yn cyflwyno

Singin' In The Rain

Disney's Beauty and the Beast

The Lion King

The Book of Mormon

Bill Kenwright a Paul Taylor-Mills yn cyflwyno

Heathers The Musical

Grease

Perfformiadau Hygyrch

Gweld popeth

The Commitments

Grease

My Best Friend's Wedding

Six

We Will Rock You

The Lion King

The Book of Mormon

Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru

The Boy With Two Hearts

Gan Hamed Amiri, wedi’i addasu i’r llwyfan gan Phil Porter mewn cydweithrediad â Hamed Amiri a Hessam Amiri