Mae Sam Lips, Charlotte Gooch, a Jenny Gayner ynghyd â Kevin Clifton o Strictly fel ‘Cosmo Brown’ yn serennu yng nghynhyrchiad poblogaidd Jonathan Church Singin’ in the Rain, sy’n gwneud sblash yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn 2022!
Ewch ar daith yn ôl i hudoliaeth Hollywood yn ystod y 20au gwyllt. Mae gan y seren ffilmiau mud Don Lockwood y cyfan, cyfres o ffilmiau poblogaidd a rhamant gydag actores fwyaf golygus y dref.
Yr hyn na wyddai Don yw bod y sgrîn arian ar fin darganfod ei llais, ac mae cyfarfod ar hap â merch corws ifanc a thalentog sydd ar fin dwyn ei galon yn newid Don, a Hollywood gyfan, am byth.
“Thrillingly inventive choreography. A night of sheer delight.”
Bydd coreograffi llawn egni a dyluniad setiau moethus (gan gynnwys dros 14,000 litr o ddŵr ar y llwyfan bob nos) yn cyfuno â swyn, rhamant a ffraethineb un o hoff ffilmiau’r byd. Mae Singin’ in the Rain yn cynnwys y sgôr odidog MGM gan gynnwys Good Morning, Make ‘em Laugh, Moses Supposes ac wrth gwrs Singin’ in the Rain.
Peidiwch aros ar gyfer diwrnod glawog, archebwch eich tocynnau nawr!
“This all-tapping, all-splashing show will put a smile on anyone's face.”
Canllaw oed: 5+ (dim plant dan 2 oed)
Amser cychwyn:
Llun – Sad 7.30pm
Iau a Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: tua 2 awr 40 munud (yn cynnwys un egwyl)
Cynigion i aelodau
Gostyngiad o £10 ar noson agoriadol (ar y 2 bris drutaf). Aelodaeth.
Cynigion i grwpiau
Grwpiau 10+ gostyngiad o £4, Llun – Iau, ar y 2 bris drutaf. Trefnu ymweliad grŵp.
Cynigion i U16 a myfyrwyr
Gostyngiad o £4, Llun – Iau, ar y 2 bris drutaf.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.
Capsiynau Agored
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Sain Ddisgrifiad