Peidiwch â cholli sioe gerdd boblogaidd Broadway a’r DU, Sister Act, sy’n dod yn syth o Lundain.
Mae’ch holl weddïau wedi’u hateb gyda chast syfrdanol, gan gynnwys y seren deledu a’r West End Lesley Joseph, actores y West End a ffefryn Hairspray Lizzie Bea, a seren Emmerdale a Waitress Sandra Marvin fel Deloris, ein hoff leian ar ffo!
Mae bywyd y ‘difa’ disgo Delrois yn newid trywydd ar ôl bod yn dyst i lofruddiaeth. Er mwyn ei hamddiffyn, mae’r heddlu’n ei hanfon i’r unig le chaiff neb hyd iddi - lleiandy! Wrth iddi helpu’r côr mewn trafferth, mae hi’n helpu ei chwiorydd newydd i ddarganfod eu lleisiau, ac yn ail-ddarganfod ei llais ei hun.
Gyda cherddoriaeth wreiddiol gan Alan Menken (Disney’s Aladdin, Enchanted) a enillodd wobr Tony® ac 8 gwobr Oscar®, a chaneuon a ysbrydolwyd gan gerddoriaeth Motown, enaid a disgo, mae’r sioe gerdd nefol hon yn un llawen a dyrchafol. Mae Sister Act yn sioe sydd rhaid ei gweld sy’n codi’ch ysbryd a thwymo’r enaid dro ar ôl tro.
Canllaw oed: 8+
CYNIGION I AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol. Aelodaeth.
U16 A MYFYRWYR
Gostyngiad o £3, perfformiadau penodol.
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o £3, perfformiadau penodol. Trefnu ymweliad grŵp.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.