Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

The Lion King

Theatr Donald Gordon

8 Gorffennaf – 27 Awst 2022

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London The Lion King {{::on_sale_date.label}} Theatr Donald Gordon MM/DD/YYYY 15 event-705

The Lion King

8 Gorffennaf – 27 Awst 2022

Theatr Donald Gordon

Mae'r argaeledd orau ar Mawrth - Iau.

Canllaw Oed: Mae The Lion King yn argymelledig ar gyfer plant 6 oed ac yn hŷn. Ni chaniateir mynediad i blant dan 3 oed.

Wedi’i osod yn y Serengeti Plains mawreddog i rythmau Affrica, mae Disney’s The Lion King yn ffenomen theatraidd fyd-enwog.

Mae 110 miliwn o bobl wedi gweld y sioe anhygoel yma ac mae’n parhau i werthu allan yn Lyceum Theatre, Llundain, hyd heddiw, yn ei 20fed flwyddyn.

“THERE IS SIMPLY NOTHING ELSE LIKE IT”

The New York Times

Mae’r addasiad yma o ffilm glasurol Disney yn wledd weledol sy’n ffrwydrad o liw, effeithiau arbennig a cherddoriaeth hudolus. Wrth galon y sioe mae stori bwerus a dirdynnol Simba - a’i daith epig ac anturus o genau bychan i Frenin y Llewod.

“A SOUL-STIRRING CELEBRATION OF LIFE”

The Daily Telegraph

Mae The Lion King yn cynnwys effeithiau niwl a meg theatrig yn ogystal a goleuadau strob mewn abell i olygfa.

Nodwch fod rhaid i blant dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu'n hŷn.

Yn gwbl amodol ar argaeledd, mae’n bosibl y gallwn ganiatáu i chi gyfnewid tocynnau a brynwyd ar gyfer perfformiad o The Lion King hyd at 24 awr cyn amser cychwyn y perfformiad y prynwyd y tocynnau ar ei gyfer, am seddi mewn perfformiad arall o The Lion King.

Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.

Hwyrddyfodiaid

Rydyn ni'n deall weithiau ei bod hi'n anodd cyrraedd ar amser. Pan fyddwch yn cyrraedd, rhowch wybod i aelod o staff a fydd yn gallu'ch cynghori chi pryd i fynd mewn i'r theatr.

Mae gan bob sioe bwyntiau penodol i hwyrddyfodiaid, ac rydyn ni'n ceisio cael pobl sy'n hwyr i'w seddi pan fydd y gynulleidfa yn cymeradwyo. Serch hynny, fe ddylech chi fod yn ymwybodol o'r ffaith nad yw rhai sioeau'n caniatáu hwyrddyfodiaid. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn eich cyfeirio at un o'r bariau lle gallwch wylio ffrwd byw o'r perfformiad.

Os gallwn ni sicrhau mynediad i chi i'r theatr yn ystod pwynt penodol, cofiwch bydd y theatr yn dywyll iawn, ac fe fydd tywysydd yn eich tywys i'ch sêt gyda fflachlamp.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon