Cyfyngiad Oed : 3+
Perfformiad Ymlaciedig
Mae The Lion King wedi ymrwymo i greu profiad cyfeillgar a chynhwysol ar gyfer y gynulleidfa. Yn dilyn eu Perfformiad Cyfeillgar i Rheiny ag Awtistiaeth yn ystod eu taith gyntaf yn 2013, yn ogystal â phum Perfformiad Cyfeillgar i Rheiny ag Awtistiaeth yn y Lyceum Theatre yn Llundain, mae’r sioe gerdd arobryn yn falch iawn o gyflwyno Perfformiad Ymlaciedig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar ddydd Iau 18 Awst am 1.30pm.
Mae perfformiadau ymlaciedig wedi’u dylunio ar gyfer pobl ag awtistiaeth, anawsterau dysgu neu anghenion synhwyraidd neu gyfathrebol eraill, sydd efallai’n teimlo’n fwy cyfforddus mewn awyrgylch fwy ymlaciedig.
Mae croeso i unrhyw un sy’n teimlo y byddai’r perfformiad yma’n ateb eu gofynion, neu ofynion aelodau o’u teulu neu ffrindiau, i fynychu’r perfformiad.
Yn gwbl amodol ar argaeledd, mae’n bosibl y gallwn ganiatáu i chi gyfnewid tocynnau a brynwyd ar gyfer perfformiad o The Lion King hyd at 48 awr cyn amser cychwyn y perfformiad y prynwyd y tocynnau ar ei gyfer, am seddi mewn perfformiad arall o The Lion King. Nodwch, fodd bynnag, mai Dydd Iau, 18 Awst 2022, am 1.30pm y cynhelir yr unig berfformiad ymlaciedig o The Lion King.
Perfformiadau Ymlaciedig