Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Connor Allen sat against a brick wall

The Museum of Nothingness

Profiad realiti estynedig rhad ac am ddim

Canolfan Mileniwm Cymru

9 – 19 Tachwedd 2022

The Museum of Nothingness

Profiad realiti estynedig rhad ac am ddim

9 – 19 Tachwedd 2022

Canolfan Mileniwm Cymru

Croeso i The Museum of Nothingness – profiad realiti estynedig (AR) ymdrochol newydd sy’n eich galluogi i gamu i mewn i feddwl Connor Allen, creawdwr The Making of a Monster.

Mae’r sioe grime-theatr fyw The Making of a Monster (9–19 Tachwedd, Stiwdio Weston) yn rhannu stori bersonol Connor am dyfu i fyny fel person hil gymysg yng Nghasnewydd a dod o hyd i’w hunaniaeth.

Wedi’i ddylunio i gael ei brofi ochr yn ochr â’r sioe fyw, mae The Museum of Nothingness yn cynnig taith ychwanegol i orffennol Connor, gan roi cipolwg mwy personol i chi o’r atgofion a ffurfiodd ac a ddiffiniodd ei lwybr unigryw.

Beth fyddwch chi’n ei ddarganfod am Connor – a chi eich hun – yn The Museum of Nothingness?

Cynhyrchiad gan Ganolfan Mileniwm Cymru a Sugar Creative mewn cydweithrediad â Connor Allen

Amseroedd agor:
Maw – Gwe 5pm – 7pm
Sad 12pm – 2pm, 5pm – 7pm

Hyd y perfformiad : 5 – 10 munud

Mynediad am ddim, does dim angen archebu.

Bydd dyfais symudol a chlustffonau yn cael eu darparu ar gyfer y profiad hwn.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru