“Treat yourself to a slice of five-star musical pie” (The Times) wrth i Chelsea Halfpenny (9 to 5, Casualty gan y BBC, Emmerdale gan ITV) serennu fel Jenna yn y sioe gerdd gomedi boblogaidd, Waitress.
Dewch i gwrdd â Jenna, gweinyddes a phobydd peis sy’n breuddwydio am damaid o hapusrwydd. Pan mae doctor golygus yn symud i’w thref, mae bywyd yn cymhlethu. Gyda chymorth ei ffrindiau Becky a Dawn, mae Jenna yn goresgyn ei heriau ac yn canfod mai chwerthin, cariad a chyfeillgarwch yw’r rysáit perffaith ar gyfer hapusrwydd.
Dan arweiniad creadigol tîm o ferched sy’n torri tir newydd, mae’r cynhyrchiad “warm, witty, wise and hilarious” (Express) yma yn cynnwys “one of the best scores in years” (The Stage). Gyda sgôr gan Sara Bareilles a enillodd wobr Grammy (Love Song, Brave) llyfr gan y sgriptiwr ffilmiau arobryn Jessie Nelson (I Am Sam) a chyfarwyddo gan Diane Paulus a enillodd wobr Tony® (Pippin, Finding Neverland).
Roedd y gynulleidfa ar eu traed bob nos yn West End Llundain a Broadway. Waitress yw’r “real deal” (Independent) a chomedi gerdd “made from the finest ingredients” (Time Out).
Archebwch nawr er mwyn sicrhau eich tocynnau ar gyfer sioe sy’n cael ei ddisgrifio gan yr Express fel “joyously life-affirming celebration of love and friendship”.
Nodwch: Mae’r lluniau’n dangos cynyrchiadau’r West End a thaith UDA.
Mae cast taith y DU i’w gael ei gadarnhau.
CYNIGION I AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol. Aelodaeth.
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o £4, perfformiadau penodol. Trefnu ymweliad grŵp.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Canllaw Oed: 13+
Nodwch: Mae Waitress yn delio â themâu aeddfed felly mae gofyn i rieni ystyried hyn os ydynt yn dod â phlant dan 13 oed i weld y sioe.
Gall y cynhyrchwyr wneud newidiadau i’r cast am unrhyw reswm, ar unrhyw bryd, ac felly nid oes modd gwarantu y bydd unrhyw artist penodol yn ymddangos yn y sioe.
Amser cychwyn:
Llun – Sad 7.30pm
Iau a Sad 2.30pm
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.
Capsiynau Agored
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Sain Ddisgrifiad