Mae bob cam yn adrodd stori.
Mae The Shoemaker yn stori bwerus am wytnwch, dygnwch, pŵer, a thosturi gyda pherthnasedd diamser.
Mae Isabella yn ddygn yn gweithio ar siapio, pwytho a chydosod esgidiau ar gyfer pobl sydd wedi penderfynu gadael eu gwlad am ddyfodol gwahanol. Gan adael storm o gasineb, anghyfiawnder, gormes a rhyfel, mae cyfres o unigolion yn teithio oddi ar y llwybr arferol yn y gobaith o ddarganfod diogelwch, cydraddoldeb a rhyddid. Ond pan maent yn cyrraedd y tir a addawyd, daw wyneb yn wyneb â Brenin anhapus, ac maent yn sylweddoli’n fuan nad yw eu trafferthion ar ben eto.
Mae cyfuniad cyffrous o ddylanwadau Lladin Americanaidd, Persiaidd a cherddoriaeth glasurol Orllewinol yn plethu gyda’i gilydd i adeiladu ar yr adrodd stori, gan dywys y gynulleidfa drwy’r perfformiad promenâd hwn.
Sioe wefreiddiol a fydd yn hoelio eich sylw.
Mewn partneriaeth ag Oasis Caerdydd.
Cenir mewn Saesneg.
Amser cychwyn:
Gwe 7pm
Sad 3pm
Hyd y perfformiad: 1 awr (Dim egwyl)