Yn dilyn llwyddiant aruthrol Brundibar (2019), mae grwpiau Opera Ieuenctid WNO wedi uno unwaith eto ar gyfer perfformiad raddfa lawn.
Mae The Black Spider yn stori anghynnes, comig sy’n mynd â ni o heddiw yn ôl i’r Oesoedd Canol. Rydym yn ailymweld â Gwlad Pwyl gynt, lle mae dyn gwyrdd rhyfedd yn cynnig amddiffyn pentref rhag eu landlord cas ond iddo gael priodi Christina hardd.
Pan mae hi’n torri ei haddewid ac yn priodi ei gwir gariad, mae’r pentref yn cael ei felltithio gyda phla gan bryf cop sy’n cropian o’i dwylo. Mae Christina yn ymladd i achub ei phobl ac yn y diwedd, yn llwyddo i gladdu’r pryf cop y tu allan i’r eglwys er mwyn rhoi diwedd ar y drychineb.
Fodd bynnag, ganrifoedd yn ddiweddarach, yng nghanol y gwaith o gloddio’r eglwys, mae archaeolegwyr yn cael eu taro gan firws heb esboniad…
Cenir yn Saesneg
Amser cychwyn:
Sad + Sul, 3pm + 7pm
Trafodaeth cyn y sioe
Ymunwch â’r Cyfarwyddwr Rhian Hutchings, y Cyfansoddwr Judith Weir a Dr David Beard (Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Caerdydd) am drafodaeth ar ddod a The Black Spider i’r llwyfan am 6yh ar noson agoriadol cynhyrchiad Opera Ieuenctid WNO. Nifer cyfyngedig o docynnau am ddim ar gael i unrhyw un fydd yn mynychu perfformiad ar Mai 28 neu 29.
CYNIGION I'R RHEINY DAN 16 OED
Tocyn £10 wrth archebu gydag oedolyn sy'n talu am docyn pris llawn. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.