Ymunwch â ni mewn Ymarferiad Agored yn y Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru, cartref Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Dewch i gael cipolwg go iawn, o du ôl i'r llenni, ar sut mae dawns yn cael ei greu wrth i ni agor drysau'r ystafell ymarfer i'r cyhoedd.
Mae ‘Fan the Flames’ gan Thomas Carsley yn llawn cariad a gobaith.
Mae gweithiwr swyddfa, myfyriwr a hen ddyn unig, sydd wedi diflasu ac sy'n anfodlon â'r byd heddiw, yn dod o hyd i'r cryfder sydd y tu mewn iddynt.
Gweler dawns gain, fywiog ac emosiynol fydd yn eich ysbrydoli chi i wynebu'r dyfodol.
Ceir cerddoriaeth newydd gan y cyfansoddwr Eric Martin Kamosi.
Cynhelir perfformiad o Fan the Flames fel rhan o PARTi ym mis Tachwedd 2022. Dysgwch fwy ndcwales.co.uk/cy/parti.
Bydd yr ymarfer agored hefyd yn cael ei ffrydio’n fyw ar dudalen Facebook CDCCymru: www.facebook.com/NDCWales
Amser cychwyn: 6pm
Hyd y perfformiad 1 awr
Mynediad am ddim ond rhaid prynu tocyn o flaen llaw.