Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Tŷ Dawns yw cartref y Cwmni Dawns Cenedlaethol sydd wedi ennill gwobrau am ei waith. Mae'n cael ei ddefnyddio'n bennaf fel stiwdio ddawns.

Yn y Tŷ mae gweithiau gan goreograffwyr rhyngwladol, yn ogystal â sêr ifanc o Gymru, yn cael eu perfformio.

Mae sgyrsiau cyn ac ar ôl y sioe ar gael yn ogystal â dosbarthiadau dawns ac ymarferion agored sy'n cynnig cyfleoedd gwych i gynulleidfaoedd ddysgu sut mae perfformiadau dawns o safon fyd-eang yn cael eu creu.

Mae gan y prif ofod dawns seddi y gellir eu tynnu o'r neilltu er mwyn i'r gofod gael ei ddefnyddio mewn ffyrdd amrywiol, felly mae digon yn digwydd yma gan gynnwys rhaglenni dawns ar gyfer ysgolion a dosbarthiadau dawns i oedolion.

Drws nesaf yn y stiwdio ddawns lai, mae lloriau meddal a waliau o ddrychau - man delfrydol ar gyfer sesiynau ioga boreol, bob dydd Mawrth rhwng 8-9yb, i ymestyn eich corff a deffro'ch ymennydd yn barod am y dydd.

I weld mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau a dosbarthiadau dawns, ewch i wefan Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru