Y ferch go iawn o Fae Teigr – mae'r lleisydd pwerus Li Harding yn perfformio caneuon gan Shirley Bassey a rhai o'i hoff ganeuon soul eraill.
Mae Li yn adnabyddus am ei dehongliadau dynamig ac unigryw o ganeuon mewn sawl genre, gan gynnwys arddulliau jazz, rhythm a blues, soul, gospel a Lladin gan artistiaid fel Etta James, Billy Holiday ac Amy Winehouse.
Yn perfformio gyda:
Gary Phillips – Gitâr
Dave Cottle – Allweddellau
Laurence Cottle – Bas
Paul Smith – Drymiau
Amser dechrau: 8.30pm, 8pm drysau
Canllaw oed: 15+
Rhybuddion: Goleuadau sy'n fflachio, synau uchel
IECHYD DA!
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.