Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Croeso i gartref newydd Cabaret, yn ein lleoliad pwrpasol syfrdanol. Wedi’i ddylunio i greu profiadau personol, hygyrch a chofiadwy, mae pawb yn cael golygfa wych gydag ychydig dros 120 o seddi o amgylch y llwyfan, ac mae bar unigryw hefyd. 

Mae Cabaret yn ofod lle y gall pawb fwynhau’r goreuon o’r bydoedd drag, comedi, bwrlésg, cerddoriaeth fyw, theatr gig a mwy, ac mae’n cyflwyno adloniant datblygol a chynhwysol fel nunlle arall yng Nghymru.

Dyma flas o beth sy’n dod y tymor hwn.