CROESO I GYFRANOGWYR NEWYDD - Cysylltwch ag education@wmc.org.uk
Prosiect arloesol sy’n uno elfennau o hip hop a grime â theatr yw Academi Next Up.
Mae Academi Next Up yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn brosiect cydweithredol mewn partneriaeth â Fio sy’n gweithio gydag ‘emcees’, djs, cyfarwyddwyr artistig, breg-ddawnswyr, artistiaid graffiti ac ysgrifenwyr sgript i gynhyrchu perfformiad sy’n archwilio materion sy’n bwysig i bobl ifanc.
Dros 21 o sesiynau, bydd pobl ifanc yn cael cyfle i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr gyda’r ymarferwyr amrywiol i ddatblygu eu sgiliau o fewn ffurfiau celfyddydol gwahanol sy’n gysylltiedig â diwylliant hip hop a grime. Bydd hyn yn arwain at berfformiad yn ein Stiwdio Weston ar 5 Ebrill 2024.
Am bwy ydyn ni’n chwilio?
Rydyn ni’n chwilio am bobl greadigol ifanc, bîtbocswyr, cantorion, rapwyr, dawnswyr ac actorion rhwng 16 a 25 oed i ymuno â'r tîm, p'un a ydych chi'n artist sefydledig neu'n artist datblygol newydd.
Rydyn ni’n ceisio sicrhau bod ein rhaglenni dysgu creadigol yn cynrychioli ystod amrywiol o bobl ac felly mae gennym ddiddordeb penodol mewn clywed gan y grwpiau isod:
- Artistiaid MOBO datblygol ifanc
- Pobl ifanc o’r mwyafrif byd-eang
- Unrhyw un o unrhyw grŵp arall a ymyleiddiwyd
Yr hwyluswyr
Sita Thomas a Tia Camilleri – Cyd-Cyfarwyddwr
Tumi Williams – Cynhyrchydd/Arweinydd
Miaer Lloyd (Excel/Huw Wackman/Pencampwr DMC y DU 2023) – DJ
Tommy Boost – Breg-ddawnsiwr
Gofynion Hygyrchedd
Os bydd angen unrhyw gymorth arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch education@wmc.org.uk.
Cwestiynau Cyffredin
Beth os nad oes gennyf unrhyw brofiad? Yn ddelfrydol byddai gennych brofiad yn un o’r ffurfiau celfyddydol, ond nid yw hyn yn hanfodol.
Beth yw’r gost? Mae ein rhaglenni Dysgu Creadigol am ddim.
Dyddiadau’r prosiect
Mae’n bwysig eich bod chi’n mynychu pob un o’r dyddiadau isod. Os oes gennych unrhyw broblemau o ran unrhyw un o’r dyddiadau, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl:
Wythnosau 1–5: Nosweithiau Mawrth 6–8pm yn dechrau ar 14 Tachwedd tan 12 Rhagfyr
Gwyliau Nadolig
Wythnosau 6–15: Nosweithiau Mawrth 6–8pm yn dechrau ar 16 Ionawr tan 19 Mawrth
Sesiynau Pasg: 25–28 Mawrth 10–4pm, 2–4 Ebrill 10–4pm, 5 Ebrill 12–8.30pm