Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Burlesque Book Club

Cardiff Cabaret Club

Cabaret

14 Gorffennaf 2023

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Burlesque Book Club {{::on_sale_date.label}} Cabaret MM/DD/YYYY 15 event-1744

Cabaret

Burlesque Book Club

Cardiff Cabaret Club

14 Gorffennaf 2023

Cabaret

Does dim byd diflas am y llyfrgell chwantus yma!

O’r clasuron i’r comics, o ramant i arswyd – trowch y tudalennau i ddarganfod naratif noeth a chymeriadau chwareus.

Wedi’i gyflwyno gan un o berfformwyr bwrlésg comedi gorau Prydain, Titsalina Bumsquash.

Gyda Remy Brandee, Sandy Sure, Talluhlah Rouge, Kitty Katastrophe, FooFoo LaBelle, Oola Pearl, Lana Del Red, Lectio Divina, Goldie Luxe a dawnswyr o Glwb Cabare Caerdydd. Gyda mwy i’w cadarnhau.

Dewch i ddathlu rhai o'r straeon, awduron a chymeriadau gorau erioed gan gynnwys: Barbara Cartland, A Midsummer Night's Dream gan Shakespeare, Nineteen Eighty-Four gan George Orwell, Wuthering Heights gan Emily Brontë, Cinderella, Ursula o The Little Mermaid, yr arwyr llyfrau comics Spider-Man a Harley Quinn a llawer mwy...

Gwisgwch fel eich hoff gymeriad awdur, thema neu gymeriad llyfr ar gyfer ein cystadleuaeth gwisg!

Titsalina Bumsquash

Ers byrstio ar y sîn yn 2012, mae Titsalina yn dal i fod yn un o berfformwyr bwrlésg comedi gorau Prydain. Mae ei steil nodweddiadol a’i pherfformiadau tafod yn y boch yn cynnig elfen ysgafn a hwyliog i unrhyw lwyfan. Mae’n aml yn cael clod am yr 'Enw Gorau ym myd Bwrlésg', a gan Titsalina mae’r teitl gwreiddiol 'Legend in the Making', ar ôl ennill y gystadleuaeth yn 2013 yng Ngŵyl Bwrlésg Hebden Bridge.

Remy Brandee

O Swydd Efrog daw Remy Brandee, ac mae’n prysur ddod yn un o berfformwyr mwyaf trydanol Prydain, gan syfrdanu’r sîn fwrlésg gyda’i steil Neo-Fwrlésg a dod yn Bencampwr TeaTime Tassel Off Prydain yn 2022.

Gwnaeth Remy ei hymddangosiad rhyngwladol cyntaf yn Sweden, cyn syfrdanu cynulleidfaoedd yn yr Unol Daleithiau a De Affrica, ac mae hi wedi cael ei gwahodd i berfformio mewn llawer o wyliau bwrlésg mawreddog gan gynnwys Gŵyl Bwrlésg Leeds a Newcastle, Gŵyl Ymylol Caeredin a Camden, yn ogystal â digwyddiadau eraill ledled Prydain ac Ewrop.

Mae’n adnabyddus am roi’r 'C' yn Curvaceous ac am hyrwyddo positifrwydd corff, ac mae’r cymeriad yma o Ogledd Lloegr yn llyfn, yn gryf, ac yn benfeddwol; mae hi mor syfrdanol oddi ar y llwyfan ag y mae hi’n ysbrydoledig...

Dyma Remy Brandee.

Sandy Sure

Mae Sandy Sure yn sassy, yn synhwyrus ac yn swreal, gan swyno cynulleidfaoedd ledled y byd gyda’i hystod bywiog o gymeriadau a pherfformiadau cyfareddol.

Mae act nodweddiadol Sandy, Beetlejuice, yn ei dangos ar ei mwyaf ellyllaidd o hurt, gyda’r act lawen Juicy Disco yn ei dangos yn disgleirio’n ddwyfol!

Gan ddechrau ei gyrfa fel un o aelodau gwreiddiol Clwb Cabare Caerdydd yn 2008, mae Sandy bellach yn adnabyddus fel act ryngwladol sy’n cloi sioeau ac sydd wedi ennill sawl gwobr. Gan fynd â’i hegni deinamig i lwyfannau yn y Swistir, Ohio, Norwy a mwy; boed yn perfformio i theatr orlawn neu gynulleidfa cabare glòs, mae Sandy bob amser yn llwyddo i swyno ei chynulleidfa, gan eu gadael yn awchu am ei pherfformiad nesaf.

Tallulah Rouge

Dawnswraig fwrlésg ac artist lip-sync â dawn ddramatig o’r de yw Tallulah. Mae Tallulah wedi’i hysbrydoli gan theatr gerdd, drag, cabare, a hanes, ac mae’n adnabyddus am ei chymeriadau benywaidd cryf a hwyliog.

Amser dechrau: 8.30pm, 8pm drysau

Canllaw oed: 18+

Rhybuddion: Iath gref, noethni, goleuadau sy’n fflachio a synau uchel.

IECHYD DA!

Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Cabaret