Gwahoddiad agored i bawb ymuno â’r noson dragtastig yma. Mae ein grŵp o fechgyn wedi bod yn gweithio’n galed ac maen nhw’n barod am noson i'r brenin!
Byddwn ni’n gweld sêr y dyfodol ar lwyfan Cabaret ochr yn ochr â’u mentoriaid gwych Justin Drag, Jordropper a Leonardo DiFlaprihoe a gwesteion arbennig o’r gymuned brenhinoedd.
Bydd canu byw, meimio, comedi, actau rhyfedd a rhyfeddol, cywilyddus ac anhygoel, a rhai ensyniadau hefyd. Byddwn ni’n dangos i chi bod llawer o ffyrdd gwahanol o fod yn frenin.
Ar ôl cwblhau cwrs brenin drag dwys, gall y sêr newydd flodeuo a byddwn ni’n dathlu popeth yn ymwneud â brenhinoedd fel nunlle arall yng Nghymru.

Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 7.30pm
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Drysau ar agor 1 awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.