Mae ein sioe deuluol hwyliog a rhyngweithiol, Chwarae Opera YN FYW yn ôl, a’r tro hwn rydyn ni’n mynd yn Jurasig.
Mewn sioe anhygoel sy’n ddifyr ac yn addysgiadol, canwch, dawnsiwch a chlapiwch gyda rhai o’n hoff ddarnau o gerddoriaeth o’r llwyfan a’r sgrîn.
Hwyliwch ar y moroedd gyda The Flying Dutchman Wagner; dihangwch i’r mynyddoedd gyda gwaith hynod o adnabyddus Grieg, Hall of the Mountain King a cherddwch ochr yn ochr â deinosoriaid gyda gwaith epig John Williams, Jurassic Park Theme.
Mewn prynhawn sy’n addas i bob oed, dewch i gwrdd ag aelodau o Gerddorfa WNO, dysgwch ffeithiau difyr a mwynhewch gerddoriaeth wych mewn lleoliad hamddenol.
Dewch i gwrdd â mwy o ddeinosoriaid gyda Dinosaur Rumpus Steve Pickett, yn seiliedig ar lyfr plant bythol boblogaidd Tony Mitton, Bumpus Jumpus Dinosaurumpus, sy’n cynnwys tafluniadau fideo byw a naratif gwreiddiol gan ein cyflwynydd gwych Tom Redmond.
Ni fyddai profiad teuluol WNO yn gyflawn heb weithgareddau cyntedd am ddim sy’n cynnwys helfa drysor, paentio wynebau a mwy. Ymunwch â ni o 1pm.
#WNOplayopera
Amser cychwyn: Sul 3pm
Hyd y perfformiad: Tua 1 awr a 10 munud (dim egwyl)
CYNIGION I'R RHEINY DAN 16 OED
Tocyn am £7.50 wrth archebu gydag oedolyn sy'n talu am docyn pris llawn. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Tocynnau eistedd ar liniau I blant dan 2 oed. £2.
CYNNIG TOCYN TEULU
Prynwch docyn teulu a gallech arbed hyd at 1/3
Teulu o bedwar: £30 (uchafswm o ddau oedolyn)
Teulu o bump: £35 (uchafswm o ddau oedolyn)
Rhaid archebu’r cynnig hwn ar ei ben ei hun – bydd angen prosesu unrhyw docynnau ychwanegol fel archeb newydd.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.