Teithiwch drwy ddyfnderoedd y gofod ar daith gerddorol arallfydol.
Profwch weithgarwch estron, dysgwch ffeithiau difyr, a chwyrlïwch o gwmpas fyd anhygoel opera a cherddoriaeth glasurol gyda sioe ryngweithiol ac addysgiadol Opera Cenedlaethol Cymru ar thema’r gofod sy’n addas i bob oed.
Bydd Tom Redmond yn arwain yr antur ac yn eich ysgogi i ganu, dawnsio a chlapio i rai o’n hoff ddarnau o’r llwyfan a sgrin.
Ni fyddai profiad teuluol WNO yn gyflawn heb weithgareddau cyntedd am ddim. Gallwch weddnewid i gymeriad estron yn ein gorsaf baentio wyneb, mwynhau helfa drysor ryngalaethol, a mwy o 1pm
Bydd y perfformiad yn para tuag awr a 10 munud heb egwyl
wno.org.uk/playoperalive
Amser cychwyn: Sad 3.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 1 awr a 10 munud (dim egwyl)
CYNIGION I'R RHEINY DAN 16 OED
Tocyn am £7.50 wrth archebu gydag oedolyn sy'n talu am docyn pris llawn. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
TOCYN BABANOD
Tocynnau eistedd ar liniau i blant dan 2 oed. £2.
CYNNIG TOCYN TEULU
Prynwch docyn teulu a gallech arbed hyd at 1/3
Teulu o bedwar: £30 (uchafswm o ddau oedolyn)
Teulu o bump: £35 (uchafswm o ddau oedolyn)
Rhaid archebu’r cynnig hwn ar ei ben ei hun – bydd angen prosesu unrhyw docynnau ychwanegol fel archeb newydd.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.