Matinee prynhawn Sadwrn wedi'i ychwanegu oherwydd galw mawr!
Ydych chi’n gwybod stori Diana? Siŵr o fod. Ond ydych chi’n gwybod ein stori ni am Diana? Rydyn ni’n amau hynny’n fawr.
Ymunwch â Diana yn y nefoedd wrth iddi rannu stori heb ei dweud a chelwyddog ei bywyd eithriadol.
Yn cyfuno drag, amlgyfryngau, rhyngweithio â’r gynulleidfa, pypedwaith a llawer o lawenydd cwiar – mae’r dathliad unigryw yma o Dywysoges y Bobl yr un mor ddoniol ag y mae’n ddi-chwaeth.
"The most unhinged piece of theatre in existence."
Sioe newydd sbon gan genhadon anhrefn theatraidd Awkward Productions, wedi’i hysgrifennu a’i pherfformio gan Linus Karp ac wedi’i chreu gyda chefnogaeth gan Arts Council England.
"Hilarious, joyful and ridiculous to the point of sublime."
Repellent trash
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 7.30pm
Matinee 3.30pm, drysau 2.30pm
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref, goleuadau sy'n fflachio, synau uchel, cyfranogiad cynulleidfa
IECHYD DA!
Drysau ar agor 1 awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.