Rhowch gychwyn campus i'ch diwrnod gyda digwyddiad arbennig sy’n cynnwys gwin o safon, canu byw ardderchog a thamaid o hiwmor isel-ael.
Dan arweiniad y seren ryngwladol y mae pawb yn ei hanwybyddu, Vanity von Glow, a’r arbenigwraig gwin enwog, Beth Brickenden, dyma sesiwn blasu gwin tra gwahanol.
Yn dilyn rhediad anhygoel, tu hwnt o boblogaidd yng Ngŵyl Ymylol Caeredin eleni, mae Drag Queen Wine Tasting yn ôl am fwy o gomedi, drygioni a gwin ffantastig.
"Laughs, live music and a big fat singalong"
Ymunwch â ni am brynhawn ardderchog o anrhefn fendigedig: bydd yna dri gwin blasus i'w blasu (wedi'u cynnwys ym mhris eich tocyn!), cystadlaethau nodiadau blasu a chyfleoedd i forio canu rhwng bob gwin.
Croeso cynnes i bob lefel o wybodaeth am win. Mae poeri neu lyncu yn gwbl opsiynol.
"Guaranteed raucous fun"
Vanity Von Glow
Vanity yw un o freninesau drag mwyaf adnabyddus y West End. Gyda chanu byw anhygoel a ffraethineb sydd mor siarp ag ysgallen, hi yw’r cyflwynydd perffaith i wneud i bawb chwerthin!
Mae Vanity, a ymddangosodd yn ddiweddar yng nghyfres newydd Amazon Prime o The Three Drinkers a’i phodlediad llwyddiannus The Vanity Project, wedi treulio mwy na degawd ar frig y byd cabaret ac mae’n un o dalentau drag mwyaf adnabyddus y West End.
Dechreuodd ei sioeau byw ym mariau tanddaearol Glasgow cyn ysgubo i mewn i Lundain. Ymunodd Vanity, sy’n gantores, yn bianydd ac yn ddigrifwr, â Beth i rannu ei harbenigedd helaeth a’u brwdfrydedd dros win, bwyd a’r celfyddydau er mwyn cyflwyno rai o brofiadau unigryw gorau’r DU.
Beth Brickenden
Gan weithio ar reng flaen byd bwyd a gwin ffasiynol Llundain ers gadael yr Ynys Werdd, mae gan Beth gyfoeth o brofiadau a brwdfrydedd dros bopeth yn ymwneud â bwyta ac yfed.
Fel cyflwynydd The Three Drinkers in Ireland ar Amazon Prime a gan barhau i greu profiadau gwin ymdrochol, mae Beth hefyd wedi gweithio gyda rai o fwytai, bariau gwin a chefs mwyaf adnabyddus y DU.
Mae Beth wedi meistroli sut i gyfuno’r byd drag â rhai o winoedd a gastronomeg gorau’r byd i greu profiadau chwareus, hygyrch a moethus.
Amser dechrau: 3.30pm, drysau 2.30pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref, cynnwys i oedolion
IECHYD DA!
Drysau ar agor 1 awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.