Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Young Queens, Hayaat Women Trust a Al Naeem yn cyflwyno

Faadi

Y Stafell Fyw

Canolfan Mileniwm Cymru

O 3 Ebrill 2023

Young Queens, Hayaat Women Trust a Al Naeem yn cyflwyno

Faadi

Y Stafell Fyw

O 3 Ebrill 2023

Canolfan Mileniwm Cymru

Prosiect ffotograffiaeth a ffasiwn rhwng cenedlaethau yw Faadi/Y Stafell Fyw/The Living Room, sy’n rhannu lleoliadau teuluol preifat mewn cartrefi Somalïaidd yng Nghymru.

Mae pwyslais ar ddathlu, gyda delweddau o fodelau lleol ifanc mewn dillad priodasol ac aelodau o’r gymuned yn modelu dillad diwylliannol fel Hidyaah Dhaqan a Diraq, yn ogystal â delweddau o frawdoliaeth a gwrywdod meddal a’r ddawns draddodiadol Ciyaar Somali.

Cymerodd tua 40–50 o aelodau’r gymuned ran yn y sesiwn ffotograffiaeth yma, fel modelau a dawnswyr neu drwy ddarparu deunyddiau a dillad traddodiadol. Dyma’r prosiect rhwng cenedlaethau cyntaf sy’n dangos profiad pobl Somalïaidd o Gymru gan roi pwyslais ar y menywod ifanc yn y gymuned. Mae diwygiad y ddawns draddodiadol Ciyaar Somali dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfle ardderchog i aelodau ifancach o’r gymuned gysylltu â’u treftadaeth ddiwylliannol, a gan ei bod yn ddawns briodas ac yn ddawns ddathlu, roedden ni am archifo’r foment bwysig iawn yma i’r gymuned Somalïaidd Gymreig yng Nghaerdydd.

Drwy’r cydweithrediad ag Asma Elmi o Al Naeem, roedd pwyslais ar sicrhau bod y delweddau yn cael eu cyflwyno fel ‘ffasiwn uchaf’ a’u bod o safon olygyddol uchel, gan ddyrchafu agosatrwydd arferion diwylliannol o fewn y gymuned gyda fframwaith a oedd yn ddathliadol ac yn gain.

Cydweithrediad yw’r prosiect yma rhwng Asma Elmi, sylfaenydd a chyfarwyddwr creadigol Al Naeem, sef cylchgrawn sy’n canolbwyntio ar ffasiwn, ffotograffiaeth a chelf Ddu a Mwslimaidd; a Young Queens, grŵp celfyddydol ar gyfer menywod Somalïaidd o Gymru sy’n byw yng Nghaerdydd, a gafodd ei sefydlu gan Hayaat Women Trust gyda chefnogaeth ariannol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Ar agor bob dydd yn Ffwrnais a Glanfa. Edrychwch ar ein amseroedd agor.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru