Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Two white men in a flamenco pose wearing bright red flamenco outfits

Flamenco Queer

Cabaret

29 Ebrill 2023

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Flamenco Queer {{::on_sale_date.label}} Cabaret MM/DD/YYYY 15 event-1698

Cabaret

Flamenco Queer

29 Ebrill 2023

Cabaret

Sefydlwyd Flamenco Queer ym mis Hydref 2019 gan y gitarydd o Lundain Jero Férec a’r dawnsiwr o Badalona Rubén Heras.

Mae Rubén a Jero yn archwilio fflamenco gan ddefnyddio hunaniaeth a chynhwysiant fel man cychwyn.

Wedi’i ysbrydoli gan y cydlifiad rhwng cymunedau cwiar lleiafrifol a fflamenco a drag a welwyd yn ardaloedd Raval a Poble-Sec yn Barcelona ar ddechrau’r 1900au, mae Flamenco Queer yn cynnig profiad dynamig ac unigryw, sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd cynrychiolaeth croestoriadol ar y llwyfan ac oddi arno, ac yn arddangos presenoldeb a chyfraniadau artistiaid cwiar mewn diwylliant fflamenco hanesyddol a chyfoes.

Rubén Heras

Dechreuodd Rubén ddawnsio fel bachgen ifanc mewn ysgol leol yn ei gymdogaeth, sef La Salut (Badalona). Astudiodd Ddawns Sbaenaidd yn yr Institut del Teatre (Barcelona) ac Amor de Dios (Madrid). Mae wedi astudio gydag artistiaid fel Kira Purcalla, Belen Cabanes, Belen López, Concha Jareño, José Maldonado, Rubén Olmo ac eraill.

Enillydd: Certamen Internacional Ciutat de Barcelona (2015)
Enillydd: Certamen Coreográfico “Píldoras de Danza” (2018)

Mae wedi perfformio mewn amrywiaeth o leoliadau ledled Barcelona, lle bu’n gweithio am flynyddoedd yn y Palacio del Flamenco. Mae hefyd wedi perfformio yn Granada, Valencia, Madrid a Sevilla yn ogystal ag Awstria, Syria a Phacistan.

Jero Férec

Dechreuodd Jero, a gafodd ei eni yn Llundain, chwarae’r gitâr fflamenco yn ifanc. Astudiodd gyda meistri fel El Entri, Gerardo Núñez, Rafael Cañizares, Eduardo Cortés ac eraill. Yn 2016 graddiodd o’r rhaglen Feistr mewn Gitâr Fflamenco yn ESMUC (Coleg Cerddoriaeth Catalwnia). Mae wedi perfformio ledled y byd gan gynnwys y DU, UDA, Sbaen, Ffrainc, Gwlad Belg, Awstria, Lwcsembwrg Morocco, Pacistan, Colombia a Malaysia. Mae Jero, sydd wedi byw yn Barcelona ers 2015, yn perfformio mewn arddull fflamenco traddodiadol gan aros yn driw at ei wreiddiau yn Llundain o ran y synau a’r estheteg weledol mae’n eu creu.

Amser dechrau: 8.30pm, 8pm drysau

Canllaw oed: 18+

Rhybuddion: Goleuadau sy'n fflachio

IECHYD DA!

Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Cabaret