Mae Clwb Cabaret Caerdydd yn ôl i agor tymor newydd Cabaret gyda rhai o’r rhyfeddodau gorau.
Wedi’i gyflwyno gan FooFooLaBelle gyda’r gwesteion arbennig Jamie Double a Lady Wildflower.
Artist syrcas yw Jamie Double, a hyfforddwyd yn Circomedia ym Mryste.
Artist bwrlésg rhyngwladol yw Lady Wildflower, sydd ymhlith y 50 gorau yn y byd, ac mae’n chwyrlïwr taselau tethi arobryn!
Bydd mwy hefyd gan Oola Pearl, Diva Delight, GiGiLaClare a dawnswyr Clwb Cabaret Caerdydd.
Mae croeso i bawb, pwy bynnag ydych chi. Wnawn ni gwrdd â chi wrth y siediau beiciau.
Amser dechrau: 8.30pm, 7.30pm drysau
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iath gref, noethni, goleuadau sy’n fflachio a synau uchel.
IECHYD DA!
Drysau ar agor 1 awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.