Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

GONDWANA

Profiad realiti rhithwir a thafluniadau am ddim

Bocs

3 – 23 Gorffennaf / 28 Gorffennaf – 13 Awst 2023

Bocs

GONDWANA

Profiad realiti rhithwir a thafluniadau am ddim

3 – 23 Gorffennaf / 28 Gorffennaf – 13 Awst 2023

Bocs

Mae'r goedwig yn newid... Ydych chi'n gallu gweld hynny?

Camwch i mewn i’r goedwig rithwir a phrofwch ddigwyddiad unigryw: GONDWANA.

Ymdrochwch eich hun yng nghoedwig glaw drofannol hynaf y byd; portread rhydd y gellir ei archwilio o’r Goedwig Glaw Daintree yng Ngogledd Queensland, Awstralia.

Fel y goedwig glaw ei hun, mae Gondwana yn system o bosibiliadau. Mae’r tywydd, tymhorau a bioamrywiaeth yn newid wrth i chi lywio map anferth o goed hynafol, mynyddoedd garw a thraethau delfrydol.

Ond mae naratif ehangach yn cyffroi islaw: dros bob dangosiad, mae’r goedwig glaw yn diraddio, gan gyfleu amcanestyniadau o ddata am yr hinsawdd hyd at y flwyddyn 2090 mewn ffordd artistig. Yr unig eli a all helpu’r dirywiad yma, sy’n ymddangos yn anochel, yw pobl – po fwyaf o amser mae cynulleidfa yn ei dreulio yn Gondwana, y mwyaf gwydn fydd y goedwig.

Mae pob dangosiad yn unigryw ac yn ddamcaniaethol: myfyrdod tawel am amser, newid a cholled mewn ecosystem na all unrhyw beth gymryd ei lle.

Dewch i brofi premiere rhyngwladol Gondwana: campwaith aml-lwyfan, VR, tafluniadau rhyngweithiol, sain a golau gyda fformat ffrydio. Dyma'r tro cyntaf y gallwn brofi rhyfeddod ymdrochol llawn coedwig glaw Daintree yn y DU a thu allan i Awstralia. 

DATGANIAD YR ARTIST

I ymchwilio’r prosiect yma, gwnaethon ni dreulio pum mis yn byw oddi ar y grid yn y Daintree, gan brofi cymhlethdod, rhyng-gysylltrwydd ac ymdeimlad yr ecosystem anferth a hynafol yma yn uniongyrchol. Mae bod yn rhan o lif dynamig natur byw’r Daintree yn rhoi’r safbwynt dynol mewn persbectif cymesur. Yma, gwnaethom ni ddeall pa mor fach ydym ni mewn gwirionedd: creaduriaid yn arnofio yn ysgyfaint rhywbeth llawer mwy. Mae amser yn chwalu, a’i gylchoedd yn symud ychydig yn ehangach nag arfer.

Darllenwch fwy gan dîm GONDWANA yma.

Clodrestr

Cyfarwyddwr – Ben Joseph Andrews
Cynhyrchydd – Emma Roberts
Prif Ddatblygwr – Lachlan Sleight
Prif Artist – Michelle Brown
Dyluniad Sain Cynhyrchiol – The Convoy (Matt Faisandier + Erin K Taylor)
Cynhyrchydd Effaith – Holly Gurling
Recordiadau Maes Trofannau Gwlyb – Andrew Skeoch
Ymgynghorwyr Kuku Yalanji – Uncle Mick “Spooks” Kulka / Uncle Ray Pierce / Binna Swindley
Swyddog Cyhoeddusrwydd – Adam J. Segal, The 2050 Group
Cyfreithiol – Jenny Lalor
Dosbarthwr XR – Danielle Giroux at Astrea

Amser agor:
Maw – Sad 11am – 6.30pm (mynediad olaf 6pm)
Sul + Llun 11am – 4.30pm (mynediad olaf 4pm)
Ar gau 24–27 Gorffennaf

Does dim angen archebu.

Hyd y profiad: Argymhellir 15–20 munud

Lleoedd: Caiff y profiad ei gyflwyno drwy realiti rhithwir a thafluniadau ar yr un pryd. Bydd dau penset VR ar gael, ynghyd â seddi ychwanegol er mwyn i eraill brofi’r tafluniadau.

Canllaw oed: Dim ond pobl 13+ oed all ddefnyddio’r pensetiau VR. Mae croeso i bobl o bob oed ddod i mewn i’r gofod i brofi’r tafluniadau. Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.

BETH YW PROFIAD REALITI RHITHWIR?

Realiti rhithwir (VR) yw’r defnydd o dechnoleg gyfrifiadurol i greu byd efelychiadol. Mae gwesteion yn gwisgo penwisg gyda chlustffonau integredig dros eu clustiau.

OES ANGEN ARCHEBU LLE?

Mae hwn yn brofiad cerdded i mewn rhad ac am ddim, does dim angen archebu.

OES ANGEN I MI DDOD AG UNRHYWBETH?

Gellir gwisgo sbectol o dan y benwisg VR ond efallai bydd yn fwy cyfforddus i chi wisgo lensys cyffwrdd neu beidio â gwisgo’ch sbectol yn ystod y profiad.

BETH YW’R MESURAU IECHYD A DIOGELWCH?

Dyw’r rhan fwyaf o bobl ddim yn profi unrhyw ymatebion negyddol i Realiti Rhithwir (VR). Fodd bynnag, gall VR fod yn ddryslyd ar gyfer unigolion sy’n niwroamrywiol, sydd ag amhariadau clywedol neu weledol, neu sy’n profi’r bendro, epilepsi, penysgafnder, salwch teithio neu lewygu.

Os ydych chi’n feichiog neu os oes gennych reoliadur y galon, siaradwch â’ch meddyg teulu cyn cymryd rhan.

Bydd hwyluswyr wedi’u hyfforddi wrth law i roi cymorth ac arweiniad yn ystod y profiad os bydd angen.

Rydyn yn glanhau a diheintio’r holl offer, gan gynnwys penwisgoedd a chlustffonau, yn drylwyr â weipiau gwrthfacteria o safon ysbyty a pheiriant UV cyn pob defnydd. Gofynnir i chi ddefnyddio’r diheintydd dwylo a ddarperir wrth gyrraedd.

Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad, ac ni argymhellir VR i bobl o dan 13 oed.

Ni chanteir babis mewn gwregys yn y profiad.

Ni chanteir i unrhyw westeion sy’n cyrraedd ar gyfer y profiad gymryd rhan dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

A VR headset resting on the floor with neon lights in the background

Cyflwynir yn

Bocs