Dewch i cael cip unigryw y tu ôl i’r llen ar y ffordd y mae ein dawnswyr yn paratoi oriau yn unig cyn iddynt lwyfannu sioe.
Medrwch wylio, sgetsio llun, recordio a chreu ffotograff o’r dosbarth bale ynteu ddawns gyfoes, a chael cip ar fywyd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Profiad perffaith ar gyfer myfyrwyr dawns, artistiaid, ffotograffwyr ac yn wir unrhyw un arall sy’n diddori yn y Cwmni a chael cip y tu ôl i’r llenni. Ehangwch eich portffolio, ymarfer darlunio symud ynteu wylio a meithrin eich diddordeb.
Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn elusen a’i nod yw gwneud dawns ar gael i bawb yng Nghymru, ac felly mae modd i chi ddod i’r digwyddiad hwn am ddim. Bydd croeso cynnes yn aros amdanoch.
Os, fodd bynnag, ydych chi mewn sefyllfa i dalu’r hyn a fynnwch tuag at docyn ar gyfer y digwyddiad hwn, byddwch yn helpu CDCCymru i barhau i gyfoethogi bywydau eraill drwy ddawns.
Amser dechrau: 11.15am
Hyd yr ymarfer: 75 munud