Byddwch yn barod am noson helbulus, cythryblus ac arswydus o fwrlésg yn nwylo diogel yr Hudoles Las, Trixie Blue!
Yn serennu’r clown clymog Twisted Nymph a’r ddawnswraig polyn synhwyrus, Leah Rose.
Bydd FooFooLaBelle, Goldie Luxe, Lili Del Fflur, a gwrachod Clwb Cabaret Caerdydd hefyd yn dod â'ch hunllefau’n fyw gydag ambell ellyll, goth a gargoel.






Twisted Nymph
Mae Twisted Nymph yn ‘chwip o ystumwraig’ (Cylchgrawn Mardi Gras, 2017). Mae'n berfformwraig ac yn hyfforddwraig brofiadol sy'n arbenigo mewn ystumiau, y cylchyn awyr a sidanau. Mae’r artist syrcas a chabaret cyfareddol o Brighton yn cynnig cymysgedd eclectig o actau sy’n amrywio o’r doniol i’r rhyfeddol i’r rhyfedd.
Disgwyliwch symudiadau iasol, anarferol ac anifeilaidd.
Leah Rose
Crëwr a pherchennog Dawnsio Polyn Chrome Roses yw Leah Rose, cwmni sydd â stiwdios yng Nghaerdydd a Chasnewydd lle mae’r myfyrwyr yn cael eu hannog i deimlo’n rhywiol ac wedi’u grymuso drwy ddawns a ffitrwydd. Dechreuodd Leah ddawnsio polyn flynyddoedd yn ôl, wrth chwilio am ffordd o gadw’n heini. Roedd yr elfennau risqué yn apelio ati, gan ei harwain at ddosbarthiadau polyn, a dydy hi heb edrych yn ôl ers hynny. Mae ei hangerdd dros symud ac addysgu wedi caniatáu iddi rannu’r wybodaeth yna ledled y byd.
Lili Del Fflur
Perfformwraig lwyddiannus, llawn hwyl a hynod cwiar yw Lili Del Fflur o dŷ Foo Foo La Belle yng Nghaerdydd. Mae wedi ennill gwobrau fel dawnswraig bwrlésg, a hynny am reswm da! Mae Lili Del Fflur wedi bod yn perfformio bwrlésg ers 2016 ac wedi perfformio ar draws gwledydd Prydain. Mae’n creu neo-fwrlésg gyda dos da o’r pinyp a’r doniol fydd yn siŵr o ddiddanu mewn perfformiad DEL-frydol!
Amser dechrau: 8.30pm, 7.30pm drysau
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref, noethni, goleuadau sy’n fflachio a synau uchel.
IECHYD DA!
Drysau ar agor 1 awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.